Toggle menu

Gosod y sylfeini ar gyfer Bargen Dwf Canolbarth Cymru

11.03.2021 - Mae dogfennau allweddol sydd yn gosod y sylfeini ar gyfer datblygiad pellach a gweithrediad Bargen Dwf Canolbarth Cymru wedi eu cefnogi gan Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru.

Gofynnwyd i'r Bwrdd ystyried drafftiau cychwynnol o ddogfennau allweddol. Maent yn nodi manylder o sut fydd y Fargen yn cael ei datblygu fel Achos Busnes Portffolio, ac i gytuno i'r sylfeini y bydd cynigion rhaglen a phrosiect yn medru cael eu ymchwilio a'u datblygu ymhellach.

Mewn datganiad ar y cyd, nododd y Cynghorwyr Rosemarie Harris ac Ellen ap Gwynn:

"Mae angen dogfennaeth gadarn arnom i sicrhau fod y fargen dwf yn cyflawni amcanion y rhanbarth am y 10-15 mlynedd nesaf. Drafftiau cychwynnol yw'r dogfennau hyn, a byddant yn cael eu datblygu ymhellach dros amser.

"Rydym wedi dysgu o fargeinion twf eraill y pwysigrwydd o gael meini prawf clir i gyflawni ein amcanion. Mae'r broses wedi ei osod allan yn glir a chyson gan y ddwy Lywodraeth: y strategaeth, y Portffolio, rhaglenni, wedyn prosiectau. Mae'r ddogfennaeth a'r datblygiad sydd wedi eu cytuno heddiw yn amlinellu'r cynnydd clir sydd wedi ei wneud yn y rhanbarth o lansio'r strategaeth ym mis Mai 2020 (Gweledigaeth ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru) a chytuno Pennau Termau o fewn yr un flwyddyn. Heddiw rydym yn cofnodi cam pellach yn natblygiad y Fargen trwy gytuno ar gyfeiriad clir i'r Portffolio, fel y gall Rhaglenni a Prosiectau nawr ddod ymlaen yn gyflym."

"Mae'r dull Portffolio yn golygu gallwn ystyried cynigion prosiect aeddfed sydd yn alinio gyda'r weledigaeth a meini prawf y Fargen ar unrhyw amser. Mae'r strategaeth wedi ei osod allan, ac heddiw rydym wedi cytuno i fanylion cychwynnol y Portffolio a'r meini prawf allweddol. Mae croeso i unrhyw un sydd yn edrych i gynnig prosiect all gyfrannu yn sylweddol at ein gofynion isadeiledd economaidd i siarad gyda'r tîm. Bydd cyflawni'r Fargen dros sawl blwyddyn yn gofyn am ymdrech sylweddol fel tîm ar draws y rhanbarth, ac mae'r dull Portffolio yn golygu fod y drws wastad yn agored am gynigion da".

Mae gwaith sylweddol nawr ar y gweill i ddatblygu'r Fargen yn unol a gofynion y ddwy Lywodraeth. Mae astudiaethau achos ar y gweill mewn amryw o'r meysydd rhaglen sydd wedi eu hadnabod gan ein busnesau fel meysydd o bwysigrwydd arbennig i Ganolbarth Cymru - Cysylltedd Digidol, Tir ac Eiddo, Ymchwil ac Arloesedd Cymhwysol, Ynni a Hydrogen. Bydd allbwn yr astudiaethau hyn yn cael eu ymgysylltu a'u trafod yn eang dros y misoedd nesaf.

Yn Rhagfyr 2020, fe gyrhaeddodd y Fargen Dwf garreg milltir sylweddol wrth arwyddo Pennau Termau gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Prydain ac awdurdodau lleol y rhanbarth, Powys a Cheredigion.

Dangosodd yr arwyddo ymrwymiad gan y ddwy lywodraeth a'r awdurdodau lleol i weithio ar y cyd i gyflawni bargen i gefnogi economi'r rhanbarth a datgloi ymrwymiad cychwynnol o £110m.

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn cyflymu ei chyfran o gyllid ar gyfer y fargen, gyda £5.5m y flwyddyn o 2021/22 am ddeng mlynedd yn lle £3.66m y flwyddyn dros 15 mlynedd.

Am wybodaeth bellach ar y Fargen Dwf, a sut i gymryd rhan, ewch i wefan Tyfu Canolbarth Cymru: www.tyfucanolbarth.cymru

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu