Toggle menu

Diolch cyhoeddus i grŵp strategaeth

23.09.2021 - Mae Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru wedi diolch i gynrychiolwyr o'r sector preifat am eu cyfraniad tuag at ddatblygu cais Bargen Twf Canolbarth Cymru, a fydd yn gweld £110miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y rhanbarth gan Lywodraethau Cymru a Llywodraeth DU.

Daethpwyd â'r Grŵp Strategaeth Economaidd ynghyd i helpu i lunio'r ddogfen strategaeth 'Gweledigaeth ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru', a gyhoeddwyd ym mis Mai 2020. Mae'r ddogfen hon yn nodi'r cyd-destun a'r cynllun gweithredu ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru - sbardun ar gyfer adferiad economaidd a thwf yn economi'r rhanbarth, gyda'r nod o greu swyddi a chynyddu cynhyrchiant ac uchelgeisiau cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach.

Gan weithredu mewn rôl gynghorol, darparodd y Grŵp Strategaeth Economaidd lais y sector preifat wrth ddatblygu'r Weledigaeth a'r Portffolio strategol dilynol y cytunwyd arno ar 21 Medi gan Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru er mwyn ei gyflwyno i'r Llywodraeth.

Y Cynghorydd Rosemarie Harris yw Arweinydd Cyngor Sir Powys. Dywedodd: "Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol yr wythnos hon ar ôl derbyn cymeradwyaeth i gyflwyno Achos Busnes Drafft y Portffolio i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Hoffem ddiolch yn gyhoeddus i holl gynrychiolwyr y Grŵp Strategaeth Economaidd sydd wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith hyd yma. Roedd eu profiad sylweddol o redeg busnesau llwyddiannus yn y rhanbarth wedi helpu i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y materion a'r blaenoriaethau strategol cywir."

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: "Wrth i ni symud ymlaen i gam nesaf y fargen, mae llais y gymuned fusnes yn parhau i fod yn ganolog. Bydd dull newydd yn cael ei sefydlu'n gyflym i ymgysylltu â'r sector preifat i sicrhau ein bod yn parhau i gael cyngor strategol priodol ac amserol gan y sector preifat i helpu i lunio manylion y buddsoddiadau wrth i fanylion y rhaglen a'r prosiect gael eu gwireddu."

Ychwanegodd y ddau ohonynt: "Fel rhanbarth, rydym yn cychwyn ar daith hir gyda'n gilydd a bydd gwaith sylweddol i'w wneud dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Fodd bynnag, rydym yn dechrau ar y daith honno yn hyderus, ac edrychwn ymlaen at weld y Fargen Dwf yn symud o gael ei datblygu i gael ei chyflawni."

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu