Toggle menu

Newyddion a Digwyddiadau

Gallwch weld y newyddion diweddaraf am Dyfu Canolbarth Cymru, datblygiadau am weithgarwch a sefydliadau yr ydym yn eu cefnogi trwy ddilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol: X (Yn flaenorol yn cael ei alw'n Twitter) https://twitter.com/growingmidwales LinkedIn: www.linkedin.com/company/growing-mid-wales

Cynorthwyo â'r Chwyldro Digidol: Chwilio am fusnesau yng Nghanolbarth Cymru i fod yn rhan o'r Arolwg Cysylltedd

11.04.24 Wrth i'r tirwedd digidol barhau i ddatblygu, bu i Tyfu Canolbarth Cymru gyhoeddi eu bod yn lansio Arolwg Cysylltedd Digidol i Fusnesau, a anelwyd at fusnesau ar draws y rhanbarth er mwyn iddynt feddu ar well dealltwriaeth o'u hanghenion cyfredol a'u hanghenion i'r dyfodol.

Uwchraddio Signal Ffonau Symudol yng Nghanolbarth Cymru

08.04.2024 Aeth y cyntaf o 86 mast 4G sydd wedi ei gynllunio yng Nghymru, yn fyw ym mis Mawrth, gyda'r mastiau cyntaf yn cael eu lleoli ar draws Ceredigion a Phowys. Mae disgwyl i ragor o fastiau gael eu troi ymlaen yn y misoedd nesaf.

Digwyddiad llwyddiannus ar ddatgarboneiddio yn helpu busnesau i baratoi ar gyfer dyfodol cynaliadwy

20.03.2024 Roedd Tyfu Canolbarth Cymru ar y cyd â Chynghorau Sir Ceredigion a Phowys, wedi cynnal digwyddiad ar ddatgarboneiddio ar ddydd Llun, 11 Mawrth 2024 yn Fferm Bargoed gan dynnu ynghyd arweinwyr, arbenigwyr a busnesau o'r sector a oedd yn awyddus i edrych ar ffyrdd o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chostau ynni.

Cyllid wedi'i ddyrannu i 14 prosiect i wella rhifedd ymhlith oedolion ledled Canolbarth Cymru

13.03.2024 Yn dilyn galwad yn ddiweddar am brosiectau fydd yn ceisio gwella sgiliau rhifedd ymhlith oedolion, cafodd 14* prosiect eu cymeradwyo ledled rhanbarth Canolbarth Cymru.

Archwilio cyfleoedd ar gyfer chwyldro digidol yng Nghanolbarth Cymru

13.03.24 Mae band eang Gigabit yn dechnoleg newydd sydd â buddion i deuluoedd a busnesau. Gall y prosiectau presennol sy'n cael eu ariannu trwy grant gynorthwyo Canolbarth Cymru i wella eu seilwaith cysylltedd yn sylweddol, ond gall fod yn gymhleth wrth archwilio'r opsiynau sydd ar gael.

Casglu barn ledled Canolbarth Cymru ar ddefnyddio ynni a thrafnidiaeth

08.02.2024 - Mae gwaith cynllunio ynni ardal leol yn mynd rhagddo ledled Cymru er mwyn deall sut mae pobl yn defnyddio ynni a thrafnidiaeth ar hyn o bryd a'u cynlluniau at y dyfodol.

Angen Arweinwyr Busnes i gefnogi'r gwaith o gyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru

08.02.2024 - Rydym yn chwilio am arweinwyr busnes ac arbenigwyr economaidd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru.

Digwyddiad i ddod ynghylch atebion busnes Cynaliadwy yng Nghanolbarth Cymru: Lleihau allyriadau a chostau

18.01.2024 - Mae digwyddiad ar gyfer busnesau Canolbarth Cymru ‒ i edrych ar ffyrdd o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chostau ynni ‒ yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim gan Dyfu Canolbarth Cymru ar y cyd â Chynghorau Sir Ceredigion a Phowys.

Bargen Dwf Canolbarth Cymru yn agosáu at gyrraedd y nod yn 2024

14.11.2023 - 'Mae Bargen Dwf Canolbarth Cymru wedi gweld cynnydd da yn 2023 ac mae bellach bron â chyrraedd y 'cyfnod cyflawni'. Dyma yw'r diweddariad a rannwyd gyda gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ac Arweinwyr Cyngor Sir Powys a Cheredigion mewn cyfarfod rhithiol a gynhaliwyd ar y 9fed o Dachwedd.

Ymgynghoriad ar Gynllun Corfforaethol

01.11.2023 - Mae trigolion Canolbarth Cymru yn cael y cyfle i roi eu sylwadau ar Gynllun Corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforaethol (CJC) y rhanbarth.
  • Blaenorol tudalen
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • o 4
  • Nesaf tudalen

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu