Toggle menu

Telerau ac Amodau

Amodau a thelerau defnyddio'r wefan:

Ymwadiad

Er bod Tyfu Canolbarth Cymru yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan yn fanwl-gywir, allwn ni ddim sicrhau y bydd y wybodaeth, y nwyddau, y gwasanaethau na'r graffeg gysylltiedig sy'n cael eu cyhoeddi ar y wefan yma yn fanwl-gywir, yn ddibynadwy, o natur orffenedig nac yn addas. Ni all Tyfu Canolbarth Cymru, ei weithwyr, ei gyflenwyr na phartïon eraill a fu'n ymwneud â chreu a darparu'r wefan yma fod yn atebol am unrhyw ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol, arbennig neu ddilynol am golled neu anghyfleustra yn sgil dibynnu ar gynnwys y wefan neu'n codi o ddefnyddio'r wefan yma.

 

Hygyrchedd

Y nod yw gwneud y safle mor hwylus i gymaint â phosibl o bobl ei ddefnyddio.  Ein nod yw cyrraedd Safonau W3C WCAG lle bo modd.

 

Telerau ac amodau defnyddio'r wefan

Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn darparu'r wefan hon yn amodol ar y telerau a'r amodau canlynol:

  • Mae eich defnydd o'r safle hwn yn ffurfio'ch derbyniad o'r telerau a'r amodau hyn gan ddechrau o'r dyddiad yr ydych yn defnyddio'r wefan gyntaf. Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn cadw'r hawl i newid y telerau a'r amodau hyn unrhyw bryd trwy bostio unrhyw newidiadau ar-lein. Mae parhau i ddefnyddio'r safle hwn wedi i ni bostio unrhyw newidiadau ar-lein yn ffurfio'ch derbyniad o'r telerau a'r amodau sydd wedi'u haddasu.
  • Mae gennych hawl i ddefnyddio'r wefan yma at eich dibenion personol ac anfasnachol eich hun. Ni chewch gopïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, lawrlwytho, postio, darlledu neu drawsyrru unrhyw ran o'r deunydd mewn unrhyw ffordd ar wahân i'ch defnydd anfasnachol chi eich hun. Mae gofyn cael caniatâd ysgrifenedig y Tyfu Canolbarth Cymru i'w ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
  • Rydych yn cytuno i ddefnyddio'r wefan dim ond at ddibenion cyfreithiol ac nid i ymyrryd â hawliau neu gyfyngu neu atal defnydd a mwynhad o'r wefan hon gan unrhyw drydydd parti. Ni chewch achosi unrhyw flinder, anghyfleustra na phryder di-angen i unrhyw drydydd parti. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad sy'n anghyfreithlon, difenwol neu gamdriniol, neu ymddygiad a allai achosi gofid, anghyfleustra, niwsans, neu fygythiad i unrhyw un, yn ogystal â thrawsyrru cynnwys anllad, bygythiol neu dramgwyddus ac amharu ar lif y ddialog o fewn y wefan yma.
  • Mae'r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill nad ydynt o angenrheidrwydd yn cael eu rhedeg gan y Tyfu Canolbarth Cymru. Nid yw'r Tyfu Canolbarth Cymru yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn, ac nid yw'n derbyn unrhyw atebolrwydd a allai godi o ganlyniad i ddefnyddio gwefannau o'r fath.
  • Mae'r Tyfu Canolbarth Cymru yn ceisio sicrhau bod yr holl wybodaeth a'r deunydd ar y wefan hon yn gywir ac yn fanwl, ond nid yw'n derbyn unrhyw atebolrwydd am gamgymeriadau neu hepgoriadau, ac nid yw'r Tyfu Canolbarth Cymru chwaith yn gwarantu y byddwch yn gallu defnyddio'r wefan yn ddi-dor. Mae'r Tyfu Canolbarth Cymru yn darparu'r deunyddiau sy'n cael eu cyhoeddi ar ei wefan ar y sail ei fod yn ymwadu pob gwarant o ran deunyddiau o'r fath, boed hynny'n ddatganedig neu'n ymhlyg. Nid yw'r Tyfu Canolbarth Cymru, ei weithwyr, ei gyflenwyr na darparwyr gwreiddiol y deunydd yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golledion busnes, na cholledion refeniw neu elw na difrod arbennig, boed uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol neu ddilynol, o ganlyniad i gyhoeddi'r deunydd ar y wefan hon neu trwy ddefnyddio'r wefan hon.
  • Rydych yn cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys hawliau hawlfraint a chronfa ddata ar y wefan hon a'i chynnwys yn perthyn i'r Tyfu Canolbarth Cymru neu wedi'u trwyddedu ganddo ac fel arall yn cael eu defnyddio gan y Tyfu Canolbarth Cymru yn unol â'r caniatâd a geir mewn deddfau perthnasol.
  • Mae gan y Tyfu Canolbarth Cymru yr hawl i olygu, i wrthod postio, neu i symud unrhyw ddeunyddiau sydd wedi'u cyflwyno neu'i bostio ar y wefan yma.  Nid yw'r Tyfu Canolbarth Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddeunyddiau sy'n cael eu postio ar y wefan gan drydydd parti. Eiddo'r trydydd parti dan sylw yw unrhyw farn, Tyfu Canolbarth Cymru, datganiad, cynnig neu wybodaeth arall sy'n cael ei bostio ganddo ar wefan y Tyfu Canolbarth Cymru. Nid yw'r Tyfu Canolbarth Cymru yn cymeradwyo nac yn gyfrifol am fanwl-gywirdeb deunydd unrhyw drydydd parti.
  • Cyfreithiau Cymru a Lloegr sy'n llywodraethu'r telerau a'r amodau yma. Bydd unrhyw anghydfod sy'n deillio o'r amodau a'r telerau hyn yn destun awdurdodaeth Llysoedd Cymru a Lloegr. 
  • Os oes unrhyw beth ar y wefan hon yn achosi pryder, rhowch wybod i ni.
  • Os ydych yn anfodlon ag unrhyw ran o'r wefan yma, neu ag unrhyw un o delerau ac amodau defnyddio'r safle, rhowch y gorau i ddefnyddio'r wefan ar unwaith.
  • Os ceir bod unrhyw rai o'r telerau a'r amodau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu na ellir eu gorfodi fel arall, yna i'r graddau y bydd unrhyw amod yn anghyfreithlon, yn annilys neu na ellir eu gorfodi fel arall, bydd yn cael ei ddileu o'r telerau a'r amodau. Ni fydd yn effeithio ar y cymal hwn a gweddill y telerau a'r amodau.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu