Toggle menu

Ydych chi wedi gweld ein sgrins newydd ar rai o'n llwybrau bws strategol yn y Canolbarth eto?

25.11.2020 O dan y Cynllun Datblygu Gwledig (CDG) presennol, mae Canolbarth Cymru wedi cael budd gan Gynllun Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS), a gynhelir gan Croeso Cymru.

Aber CGi Screen

Cronfa fuddsoddi yw TAIS sy'n targedu prosiectau amwynder yn y sector twristiaeth, a fydd yn datblygu cyfleusterau twristiaeth cynaliadwy ac yn ychwanegu gwerth i'r profiad i ymwelwyr. Bu cais rhanbarthol yn llwyddiannus wrth ddatblygu prosiect a oedd yn werth £160,000 i osod 5 sgrin CGi ar hyd coridor T2 TrawsCymru, gan gynnwys Machynlleth ac Aberystwyth, trefi sy'n boblogaidd ymhlith twristiaid.

Yn ogystal â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd am amserlenni bysiau, bydd y sgriniau yn caniatáu i'r cyhoedd droi at dudalennau twristiaeth Awdurdodau Lleol ar y we a byddant yn hyrwyddo Llwybr yr Arfordir Ffordd Cymru Llywodraeth Cymru.

Mae'r prosiect wedi sicrhau cyllid trwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariannir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru

Sgrin CGi Mach

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu