Arolwg Busnes Sgiliau Rhanbarthol
Rydym yn gwahodd cyflogwyr lleol i gwblhau Arolwg Busnes Sgiliau Rhanbarthol i helpu siapio datblygiad sgiliau a darpariaeth ôl‑16 ledled Canolbarth Cymru. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall anghenion y gweithlu, heriau recriwtio a'r galw am sgiliau yn y dyfodol.
Bydd y canlyniadau'n cefnogi Coleg Ceredigion, Cyngor Sir Ceredigion, a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ddatblygu cynllun darpariaeth ôl‑16 cydweithredol sy'n diwallu anghenion sgiliau'r rhanbarth ac yn cefnogi twf economaidd. Bydd yr holl ddata'n cael ei gadw'n ddiogel gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, ac mae cymryd rhan yn wirfoddol.
Cwblhewch yr arolwg erbyn 17 Ebrill 2026: https://forms.office.com/e/psEbaHFNfj
