Toggle menu

Galwad agored ar gyfer ymgeiswyr Cronfa Ffyniant Gyffredin Canolbarth Cymru

09.03.2023 - Mae Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys yn falch o gyhoeddi y gall sefydliadau yn y rhanbarth gyflwyno eu ceisiadau ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Nghanolbarth Cymru yn fuan.

O 20 Mawrth ymlaen gall prosiectau sy'n gweithredu yn ardaloedd Awdurdodau Lleol Ceredigion a Phowys gyflwyno eu ceisiadau amlinellol am gyllid mewn cyfres o ddwy alwad agored.

Gall partïon â diddordeb sy'n ystyried gwneud cais am y gronfa fynychu gweminar ar 16 Mawrth am 10am i ddarganfod mwy a chael gwybod pa gamau sydd eu hangen i wneud cais.

Ym mis Rhagfyr 2022, cymeradwywyd cais rhanbarth Canolbarth Cymru ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan alluogi mynediad at y £42.4 miliwn sydd wedi'i ddyrannu i fuddsoddi yn y rhanbarth rhwng nawr a mis Mawrth 2025.

Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi amcanion y Cynllun Ffyniant Bro, sy'n ceisio:

  • Gwella cynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu'r sector preifat, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent ar ei hôl hi
  • Gwasgaru cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent ar eu gwannaf
  • Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent wedi'u colli
  • Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y llefydd hynny heb asiantaeth leol
  • Drwy'r Rhaglen Lluosi, cynyddu lefelau rhifedd ymarferol ymhlith oedolion yn y boblogaeth

Noder bod ardaloedd Awdurdod Lleol Ceredigion a Phowys yn derbyn dyraniadau unigol o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Os ydych yn bwriadu gwneud cais rhanbarthol, cysylltwch â'r ddau awdurdod i drafod ymhellach.

I fynychu gweminar Galwad Agored Cronfa Ffyniant Gyffredin Canolbarth Cymru, cofrestrwch eich diddordeb drwy'r ddolen ganlynol: https://bit.ly/GweminarUKSPFCanolbarthCymru

I wneud cais ar gyfer y gronfa ac i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion pwysig y dylai sefydliadau feddwl amdanynt cyn ymgeisio, ewch i dudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin Canolbarth Cymru ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru, www.tyfucanolbarth.cymru/UKSPFCanolbarthCymru 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu