Toggle menu

Angen Arweinwyr Busnes I Sbarduno Sgiliau Rhanbarthol

19.08.2022 - Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru (RSP) yn chwilio am arweinwyr busnes ac arbenigwyr economaidd i fynegi diddordeb i ddod yn gadeirydd bwrdd yr RSP. Cynhelir Cyfarfod Blynyddol yr RSP ar ddydd Llun 12 Medi, pan ddisgwylir cyhoeddi enw'r Cadeirydd newydd.

Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru (RSP) yn chwilio am arweinwyr busnes ac arbenigwyr economaidd i fynegi diddordeb i ddod yn gadeirydd bwrdd yr RSP. Cynhelir Cyfarfod Blynyddol yr RSP ar ddydd Llun 12 Medi, pan ddisgwylir cyhoeddi enw'r Cadeirydd newydd.

Dywedodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a James Gibson-Watts, Arweinydd Cyngor Sir Powys sy'n gyd-gadeiryddion Tyfu Canolbarth Cymru y mae'r RSP yn aelod ohono: "Mae'n gyfnod cyffrous ar gyfer Dysgu a Sgiliau yng Nghanolbarth Cymru. Mae'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn gweithio gydag arweinwyr busnes a rhanddeiliaid ar draws y rhanbarth i ddeall y ddarpariaeth sgiliau ac anghenion y farchnad waith er mwyn sbarduno buddsoddiad sy'n bodloni gofynion y cyflogwyr a'r gweithlu."

"Rydym yn awyddus i benodi unigolyn ysbrydoledig o'r sector preifat â'r cymwysterau addas ganddo i Gadeirio'r grŵp. Person busnes (cwmni preifat) fydd y Cadeirydd hwn, a chanddo fuddiannau busnes yng Nghanolbarth Cymru. Bydd ganddo/ganddi ddiddordeb a dylanwad ar draws sir ac ar lefel is-ranbarthol. Disgwylir mai cyflogwr lleol sylweddol ag effaith ar y gadwyn gyflenwi leol, ranbarthol a chenedlaethol fydd buddiannau busnes y Cadeirydd a disgwylir y bydd modd iddo ddefnyddio'r buddiannau busnes hyn."

Bydd Cadeirydd Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Canolbarth Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i sbarduno gweledigaeth y rhanbarth ar gyfer dysgu a sgiliau, gan gynrychioli llais y sector preifat yn y rhanbarth er mwyn dylanwadu a chefnogi penderfyniadau rhanbarthol a hyrwyddo'r rhanbarth ar lefel Genedlaethol.

Bydd hyn yn gofyn am unigolyn sy'n gallu dangos:

  • Ei fod/ei bod yn Arweinydd yn y Diwydiant, yn enwedig o'r sectorau a nodir yn Gweledigaeth Tyfu Canolbarth Cymru. Mae modd gweld y weledigaeth ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru, http://tyfucanolbarth.cymru/blaenoriaethautwfstrategol
  • Gwybodaeth a phrofiad o'r gwahanol sectorau diwydiant yn y Canolbarth;
  • Profiad cryf o'r sector preifat;
  • Arweinyddiaeth gref ac ethos partneriaeth;
  • Dealltwriaeth o'r amgylchedd strategol ehangach ac ystyried hyn wrth gyflwyno argymhellion

Mae'r swydd yn un wirfoddol gydag ymrwymiad o ryw 12 diwrnod y flwyddyn, yn fras.

Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau'r manylion a amlinellir yn y ffurflen sydd ar dudalen Dogfennau ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru, http://tyfucanolbarth.cymru/dogfennau a dychwelyd y ffurflen i aggie.caesar-homden@powys.gov.uk erbyn Hanner dydd, ddydd Iau 25 Awst a chynhelir y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau dydd Llun 29 Awst.

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl neu i drafod y cyfle ymhellach, cysylltwch â Rheolwr Partneriaeth yr RSP: Aggie Caesar-Homden, aggie.caesar-homden@powys.gov.uk / 01597 826713

19/08/2022

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu