Toggle menu

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn Datgelu Diweddariad i'w Chynllun Cyflogaeth a Sgiliau yn y Sioe

22.07.24 Ar 22 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru, datgelodd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (PSRh) Canolbarth Cymru ei diweddariad i Gynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2022-2025. Mae'n rhoi sylw i anghenion cyflogaeth a sgiliau y rhanbarth sy'n esblygu, gan adlewyrchu twf sectorau a galwadau economaidd.

Mae'r cynllun wedi'i ddiweddaru yn cynnwys gwybodaeth newydd am y farchnad lafur a data ansoddol, sy'n cynnig rhagolygon twf manwl ar gyfer Powys a Cheredigion. Cydweithiodd PSRh gyda grwpiau clwstwr a arweiniwyd gan fyd busnes i gasglu dirnadaeth o ddiwydiannau penodol, gan sicrhau bod y cynllun yn bodloni galwadau presennol economi Canolbarth Cymru a'i galwadau yn y dyfodol.

Mae'r cynllun wedi'i ddiweddaru yn amlygu meysydd twf allweddol tan 2028, gan gynnwys cynnydd o 6% yn y sectorau adeiladu a chynhyrchu uwch, cynnydd o 9% mewn cynhyrchu bwyd a diod, a thwf o 4% yn y sector digidol.  Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd sgiliau sy'n gysylltiedig â Sero Net ac ynni, gan amlygu gofynion y gweithlu sy'n dod i'r amlwg.

Dywedodd Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys, a Chynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Cyd Gadeiryddion Bwrdd PSRh, "Rydym yn falch gyda'r camau cadarnhaol y mae'r rhanbarth wedi'u cymryd gan sicrhau twf.  Trwy gydweithio gydag ysgolion, colegau, prifysgolion a darparwyr hyfforddiant, mae'r PSRh yn helpu i sicrhau bod y sgiliau cywir ar gael ar yr adeg gywir i fodloni galwadau ein cyflogwyr yng Nghanolbarth Cymru."

Dywedodd Emma Thomas, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, "Mae diweddariad Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2024 yn dyst i'n hymdrechion parhaus i gefnogi datblygiad economaidd y rhanbarth."

Mae PSRh Canolbarth Cymru yn annog rhanddeiliaid, busnesau a'r gymuned i archwilio'r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau cynhwysfawr ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru: www.tyfucanolbarth.cymru/PartneriaethSgiliauRhanbartholCanolbarthCymru 

Mae'r Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru yn rhan o dîm Tyfu Canolbarth Cymru ac yn gweithio ar draws siroedd Ceredigion a Powys, yn sicrhau bod y weledigaeth ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru yn cael ei datblygu a'i gwireddu. Mae hyn yn cynnwys gweithio i hybu buddsoddiad mewn sgiliau drwy ddatblygu ymatebion seiliedig ar anghenion lleol a rhanbarthol.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith Tyfu Canolbarth Cymru, cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr misol drwy e-bostio tyfucanolbarthcymru@ceredigion.gov.uk.

Skills Partnership Unveils Update to their Employment & Skills Plan at Royal Welsh Show

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu