28.08.2022 - Mae Arweinwyr newydd Cynghorau Sir Powys a Cheredigion wedi cadarnhau eu hymroddiad i gydweithio i gyflawni dwy raglen waith sylweddol.
Etholwyd y Cynghorydd James Gibson-Watt o Gyngor Sir Powys a'r Cynghorydd Bryan Davies o Gyngor Sir Ceredigion yn Arweinwyr newydd ar eu cynghorau yn etholiadau'r Llywodraeth Leol ym mis Mai.
Yn eu cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf yn y Sioe Fawr yr wythnos hon, cadarnhawyd eu hymroddiad i gydweithio i gyflawni BargenTwf Canolbarth Cymru a Chyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth.
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn bartneriaeth arloesol sy'n cyfuno buddsoddiad o £110m gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae disgwyl iddo ddenu buddsoddiad ychwanegol sylweddol o ffynonellau cyhoeddus a phreifat eraill a fydd yn hwb sylweddol i'r Canolbarth.
Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth yn un o bedwar a sefydlwyd ar draws Cymru i atgyfnerthu democratiaeth ac atebolrwydd lleol trwy integreiddio'r broses o wneud penderfyniadau mewn tri prif faes: trafnidiaeth ranbarthol, cynllunio datblygu strategol a lles economaidd.