Toggle menu

Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru

Logo for the Mid Wales Corporate Joint Committee

Trosolwg

Sefydlwyd Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru ym mis Ionawr 2022, ac mae'n cynnwys ardaloedd awdurdodau lleol Ceredigion a Phowys, a Bannau Brycheiniog ar gyfer cynllunio datblygiad strategol. Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru (CBCCC) yn un o bedwar a sefydlwyd ar draws Cymru gan Lywodraeth Cymru. Nod y fenter hon yw gwella democratiaeth ac atebolrwydd lleol trwy integreiddio prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn tri maes hollbwysig: Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol, Cynllunio Datblygiad Strategol a Lles Economaidd.

Aelodau'r Pwyllgor

Mae'r pwyllgor yn cynnwys y ddau Arweinydd ar draws y rhanbarth.  Mae rolau'r Cadeirydd a'r Prif Swyddog Gweithredol yn cylchdroi bob blwyddyn.  Mae'r aelodau'n cynnwys:

  • Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion
  • Arweinydd Cyngor Sir Powys
  • Is-Gadeirydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (sy'n gysylltiedig â materion sy'n ymwneud â chynllunio strategol yn benodol).
  • Cynrychiolwyr uwch o'r sefydliadau uchod
  • Prif Swyddogion Gweithredol (PSG)
  • Swyddog Monitro
  • Prif Swyddog Ariannol (Adran 151)

Strwythur Llywodraethu Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru

Strwythur Llywodraethu Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru

 

Amcanion

Mae gan Gyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru y cyfrifoldebau canlynol:

  1. Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol: Canolbwyntio ar wella'r seilwaith trafnidiaeth a chysylltedd yn y rhanbarth.
  2. Cynllunio Datblygiad Strategol:  Creu a gweithredu cynlluniau cynhwysfawr ar gyfer twf rhanbarthol cynaliadwy.
  3. Lles Economaidd:  Ysgogi a chynorthwyo prosiectau sy'n ceisio rhoi hwb i'r economi leol.

Cefndir Deddfwriaethol

Mae sefydlu'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig, gan gynnwys yr un ar gyfer Canolbarth Cymru, yn rhan o'r diwygiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Cynlluniwyd y ddeddf hon i feithrin mwy o gydweithredu ac effeithlonrwydd ymhlith awdurdodau lleol yng Nghymru.

Cyfansoddiad Cyd-bwyllgorau Corfforedig

Cyfansoddiad Cyd-bwyllgorau Corfforedig (PDF) [1MB]

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu