Toggle menu

Cynlluniau Ynni Ardal lleol yn cael eu cymeradwyo i gynorthwyo gweithgarwch pontio i sero net

25.09.24 Yn ddiweddar, mae Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys wedi cymeradwyo eu Cynlluniau Ynni Ardal Lleol (CYALl).

Mae'r cynlluniau hyn, a luniwyd ar y cyd gyda rhanddeiliaid amrywiol, ac a ariannir gan Lywodraeth Cymru, yn nodi sut y gall y ddwy ardal symud i system ynni sero net erbyn 2050.

Mae'r CYALl hyn yn datblygu Strategaeth Ynni Canolbarth Cymru a byddant yn cyfrannu at Gynllun Ynni Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Mae prif ganfyddiadau'r CYALl yn cynnwys:

  • Prosiectau blaenoriaeth uchel
    Pympiau gwres:  mae'r CYALl yn amcangyfrif y bydd angen gosod 86000 o bympiau gwres erbyn 2050 ar draws Canolbarth Cymru.
    Uwchraddio effeithlonrwydd ffabrig:  gallai 61400 o gartrefi gael budd gan welliannau i'w ffabrig fel inswleiddio a gwydr dwbl.
    Systemau ynni lleol deallus: gallai defnyddio trydan yn lleol mewn ffordd ddeallus a hyblyg leihau biliau ynni gymaint ag y bo modd, cynyddu perchnogaeth leol ynni adnewyddadwy, a lleihau'r angen i uwchraddio'r rhwydwaith.
    Rhwydwaith gwres: nodwyd mai Aberystwyth yw'r lleoliad mwyaf addas er mwyn cael rhwydwaith gwres rhanbarthol yng Nghanolbarth Cymru.
    Cerbydau trydan:  bydd angen i'r gwaith o osod seilwaith gwefru gyfateb â'r cynnydd rhagamcanol yn nifer y cerbydau trydan yng Nghanolbarth Cymru.
  • Buddsoddi: Mae'r CYALl yn amcangyfrif bod angen buddsoddiad ychwanegol o £1.95 biliwn yng Nghanolbarth Cymru er mwyn sicrhau sero net, a bydd angen i 40% o hwn fod ar gyfer uwchraddio eiddo domestig.
  • Sgiliau:  Mae rhoi sylw i'r bwlch sgiliau yn y rhanbarth yn hanfodol er mwyn galluogi i fesurau effeithlonrwydd a gosod pympiau gwres a phaneli solar gael eu gweithredu ar raddfa.  Mae'r CYALl yn amcangyfrif y gallai 995 o swyddi ychwanegol gael eu creu yn lleol erbyn 2050.
  • Cynhyrchu ynni adnewyddadwy:  mae gan Ganolbarth Cymru y potensial i gynhyrchu swm sylweddol o ynni adnewyddadwy.  Fodd bynnag, mae rhanddeiliaid wedi amlygu pwysigrwydd sicrhau bod buddion yn cronni yn lleol (e.e. rhanberchnogaeth, biliau is).
  • Uwchraddio'r rhwydwaith trydan:  Bydd y rhwydweithiau ynni yn defnyddio allbynnau'r CYALl i gyfrannu at eu gweithgarwch cynllunio busnes.
  • Manteision lluosog:  Bydd mentrau a awgrymir yn y CYALl yn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, lleddfu tlodi tanwydd, gwella iechyd, a chreu swyddi.

Dywedodd Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys, a Chynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Cyd Gadeiryddion Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru, "Mae'r CYALl yn cynnig fframwaith cadarn er mwyn i'n rhanbarth sicrhau allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Maent yn cyd-fynd â'n nod ehangach o greu cymunedau cynaliadwy, gwyrdd a chysylltiedig. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r holl randdeiliaid i wireddu'r weledigaeth hon."

Mae cymeradwyo'r CYALl yn garreg filltir arwyddocaol ar daith y rhanbarth tuag at sicrhau sero net. Caiff y cynlluniau eu diweddaru o bryd i'w gilydd i gynnwys datblygiadau technolegol a newidiadau polisi, gan sicrhau ei effeithiolrwydd wrth gyflawni nodau cynaliadwyedd hirdymor.

Mae Ynni rhanbarthol yn cael ei arwain gan Tyfu Canolbarth Cymru, sy'n chwarae rhan allweddol wrth ddod â rhanddeiliaid ynghyd ar draws y rhanbarth i hwyluso'r broses bontio i Sero-Net, yn ogystal â chefnogi'r awdurdodau lleol i arwain trwy esiampl.

I weld yr CYALl ar gyfer pob sir, ewch i: www.tyfucanolbarth.cymru/CYALI

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu