Toggle menu

Ehangu Band Eang Gigadid er mwyn Hybu Cysylltedd yng Ngheredigion a Phowys

09.09.24 Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn falch o gyhoeddi cam mawr ymlaen o safbwynt seilwaith digidol ar gyfer y rhanbarth.

Bydd Ceredigion a Phowys yn elwa'n sylweddol o Brosiect Gigadid Llywodraeth y DU, ac mae cytundeb fframwaith newydd wedi'i lofnodi rhwng Building Digital UK (BDUK) ac Openreach. Nod y cytundeb hwn, sy'n werth hyd at £800 miliwn, yw darparu band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid i rai o'r ardaloedd mwyaf anghysbell ac anodd eu cyrraedd ar draws y DU, sy'n cynnwys dros 42,000 o safleoedd yng ngogledd-orllewin, canolbarth a de-orllewin Cymru.

Mae gan fand eang gigadid y gallu i drawsnewid Ceredigion a Phowys, drwy fynd i'r afael ag anghydraddoldebau digidol sy'n bodoli ers amser a thrwy ddarparu gwasanaethau rhyngrwyd cyflymach a mwy dibynadwy i breswylwyr a busnesau. Mae'r prosiect hwn yn gam tyngedfennol o safbwynt meithrin twf economaidd, hybu cysylltedd, a gwella ansawdd bywyd yn y cymunedau gwledig hyn.

Mae cyflwyno band eang gigadid yng Ngheredigion a Phowys yn rhan o ymdrech ar y cyd gan Tyfu Canolbarth Cymru, sef partneriaeth ranbarthol a threfniant ymgysylltu rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus, ac â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Ei nod yw hybu datblygu economaidd rhanbarthol drwy gysylltedd a seilwaith gwell a thrwy ragor o arloesi. 

Meddai'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys, a'r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, sef Cyd-gadeiryddion Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru, wrth sôn am y datblygiad hwn: "Mae'n newid sefyllfa ein rhanbarth yn llwyr. Bydd cyflwyno band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid yn esgor ar gyfleoedd newydd i'n cymunedau, ac yn eu galluogi i ffynnu yn yr oes ddigidol. Mae'n fuddsoddiad hanfodol a fydd yn ysgogi arloesi ac yn hybu twf economaidd ar draws y canolbarth. Byddwn ni, fel Awdurdodau Lleol, yn barhau i weithio gyda'r Llywodraeth i fynd i'r afael â'r bylchau sy'n weddill yn y ddarpariaeth yng Nghanolbarth Cymru."

Mae cam cyntaf y broses o gyflwyno band eang gigadid yn cynnwys gwaith paratoi hanfodol megis cloddio ffosydd, gosod cwndidau a gosod ffeibr. Disgwylir y bydd y cysylltiadau cyntaf yng Ngheredigion a Phowys yn weithredol yn ystod 2025. Bydd y fenter hon yn galluogi preswylwyr i ffrydio cynnwys manylder uwch, cymryd rhan mewn cynadleddau fideo, a chael mynediad yn fwy hwylus i wasanaethau ar-lein. I fusnesau, yn enwedig rhai ym maes amaethyddiaeth, twristiaeth a'r diwydiannau creadigol, bydd band eang gwell yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer twf ac ar gyfer ehangu marchnadoedd.

Caiff preswylwyr eu hannog i archwilio cynlluniau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ar gyfer cysylltiadau band eang, oherwydd mae gan dros 50% o safleoedd yn y ddwy sir fynediad i wasanaethau ffeibr gwibgyswllt yn barod. At hynny, mae cyfleoedd ychwanegol o ran cyllid ar gael drwy gynlluniau a ariennir gan dalebau. I wirio i ba raddau y mae cynlluniau o'r fath ar gael, gall preswylwyr ddefnyddio'r adnodd gwirio â chod post, sydd ar gael yma: Adnodd Gwirio Ffeibr (openreach.com)

Bydd Tyfu Canolbarth Cymru yn parhau i weithio'n agos gydag Openreach, BDUK a rhanddeiliaid lleol i sicrhau bod y prosiect hwn yn cael ei weithredu'n llwyddiannus, a bydd diweddariadau a mapiau manwl o'r ardaloedd perthnasol yn cael eu darparu maes o law.

I gael mwy o wybodaeth am fframwaith y Prosiect Gigadid a'i effaith ar Geredigion a Phowys, ewch i wefan BDUK. Cytundeb fframwaith y Prosiect Gigadid - Openreach - GOV.UK (www.gov.uk)

Gallwch gael gwybod am ddatblygiadau diweddaraf Tyfu Canolbarth Cymru drwy danysgrifio i'n llythyr newyddion misol. Anfonwch ebost i tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru.

Broadband

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu