Toggle menu

Portffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru Yn Cyrraedd Carreg Filltir Allweddol

21.09.2021 - Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru wedi mynd heibio carreg filltir bwysig ar ôl derbyn cymeradwyaeth i gyflwyno Achos Busnes drafft y Portffolio i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Heddiw (21 Medi), cymeradwyodd Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru i achos busnes y portffolio gael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i'w ystyried a'i adolygu. Mae'r penderfyniad yn nodi pwynt allweddol yn natblygiad y Fargen Dwf a fydd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Llywodraeth, yn galluogi'r ffocws i symud at ddatblygu Achosion Busnes y Prosiectau ac Achosion Busnes y Rhaglenni.

Mae Achos Busnes y Portffolio yn darparu fframwaith ar gyfer y fargen dwf a chyfres gychwynnol o raglenni a phrosiectau y gellir eu datblygu a'u hystyried ymhellach wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Mae'r cynigion presennol yn cynnwys y bwriad i gyflwyno rhaglenni ffurfiol ar gyfer cysylltedd digidol, safleoedd ac adeiladau, ynghyd ag amrywiaeth o gynigion prosiect cynnar i ddatblygu seilwaith economaidd y rhanbarth.

Y Cynghorydd Rosemarie Harris yw Arweinydd Cyngor Sir Powys. Dywedodd: "Rydym wedi mynd heibio carreg filltir bwysig iawn, a nawr rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r ddwy Lywodraeth a gweithredu'r argymhellion i ddechrau paratoi'r ffordd ar gyfer darparu miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad, creu swyddi a rhoi hwb sylweddol i economi ein rhanbarth."

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: "Mae cymeradwyo Achos Busnes y Portffolio yn gam hollbwysig yn natblygiad y Fargen Dwf, ac mae'n nodi diwedd y bennod gyntaf cyn y gallwn gyflwyno'r prosiectau a'r rhaglenni datblygu o ddifrif. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector nawr i wireddu potensial y Fargen yn llawn."

Ychwanegodd y ddau Arweinydd: "Bydd Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru a'n partneriaid yn y sector preifat yn adolygu'r Portffolio yn barhaus er mwyn sicrhau ei fod yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bobl a busnesau'r rhanbarth. Er ein bod yn bwrw ymlaen â chyfres o gynigion cychwynnol ar hyn o bryd, rydym am bwysleisio bod y Portffolio yn caniatáu i gyfleoedd newydd gael eu cyflwyno. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn y sector preifat i ysgogi potensial llawn y Fargen ar gyfer ein rhanbarth a sbarduno cyfleoedd buddsoddi newydd. Felly, mae ein drws wastad ar agor er mwyn annog syniadau da i gael eu cyflwyno i'w hystyried.

"Fel rhanbarth, rydym yn cychwyn ar daith hir gyda'n gilydd a bydd gwaith sylweddol i'w wneud dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Fodd bynnag, rydym bellach yn dechrau ar y daith honno o ddifrif, ac edrychwn ymlaen at weld y Fargen Dwf yn symud o gael ei datblygu i gael ei chyflawni."

Mae gan y cynnig presennol ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru, a ddatblygwyd o'r Weledigaeth ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru, botensial i gynhyrchu buddsoddiad cyfalaf o rhwng £280 a £400 miliwn dros y 10-15 mlynedd nesaf, ac amcangyfrifir y bydd yn creu hyd at 1,100 o swyddi a Gwerth Ychwanegol Gros o £570-700 miliwn i economi'r rhanbarth dros amser. Bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatgloi a denu buddsoddiad pellach gan y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Ym mis Rhagfyr 2020, ymrwymodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £55miliwn yr un ar ôl iddynt lofnodi Cytundeb Penawdau Telerau gyda dau awdurdod lleol y rhanbarth.

Dywedodd David TC Davies, Gweinidog Swyddfa Cymru: "Mae'n bleser gan Lywodraeth y DU fuddsoddi ym Margen Twf Canolbarth Cymru, sydd â'r potensial i drawsnewid yr economi ranbarthol, gan greu swyddi a ffyniant ar gyfer y dyfodol. Rydym yn dechrau ar y daith gyffrous honno heddiw ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid i gyflawni'r cynllun uchelgeisiol hwn."

Vaughan Gething yw Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru. Dywedodd: "Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r Fargen Dwf yng Nghanolbarth Cymru, ac edrychwn ymlaen at dderbyn y cynnig ar ôl i'r Cyd-bwyllgor ei ystyried. Mae gan y Fargen Dwf ran bwysig i'w chwarae yn yr adferiad yn dilyn Covid ac wrth helpu i hyrwyddo economi wyrddach, mwy cyfartal a mwy llewyrchus yng Nghanolbarth Cymru."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu