1. English
Dewislen llywio safle agored

Newyddion a Digwyddiadau

Gallwch weld y newyddion diweddaraf am Dyfu Canolbarth Cymru, datblygiadau am weithgarwch a sefydliadau yr ydym yn eu cefnogi trwy ddilyn ein tudalennau Linked In a Twitter:

https://twitter.com/growingmidwales

www.linkedin.com/company/growing-mid-wales
 

Cylchlythyron 

Cylchlythyr Mis Medi Tyfu Canolbarth Cymru 2023 (PDF) [1MB]

Cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru Mis Awst 2023 (PDF) [1MB]

Cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru Gorffennaf 2023 (PDF) [1MB]

Tyfu Canolbarth Cymru Cylchlythyr mis Mehefin 2023 (PDF) [910KB]

Tyfu Canolbarth Cymru Cylchlythyr mis Mai 2023 (PDF) [1MB]

Cylchlythyr mis Ebrill 2023 Tyfu Canolbarth Cymru (PDF) [955KB]

Tyfu Canolbarth Cymru Cylchlythyr mis Mawrth 2023 (PDF) [1MB]

Tyfu Canolbarth Cymru Cylchlythyr Mis Chwefror (PDF) [1MB]

Cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru Mis Ionawr 2023 (PDF) [1MB]

Tyfu Canolbarth Cymru Cylchlythyr mis Rhagfyr 2022 (PDF) [1MB]

Cylchlythyr mis Tachwedd Tyfu Canolbarth Cymru (PDF) [1MB]

Cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru Mis Hydref 2022 (PDF) [1MB]

Cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru Mis Medi 2022 (PDF) [1MB]

Awst 2022 Cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru (PDF) [1MB]

Gorffennaf 2022 Cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru (PDF) [1MB]

Os ydych yn dymuno derbyn ein cylchlythyrau misol, ebostiwch tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru i gael eich ychwanegu at ein rhestr cylchrediad. Nodwch eich enw llawn, teitl swydd (os yw'n berthnasol) a sefydliad (os yw'n berthnasol). Bydd eich data'n cael ei storio mewn modd diogel gan gydymffurfio â'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a bydd ond yn cael ei ddefnyddio i ddarparu'r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani.

 

Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn ystyried yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn

Ar 18fed Medi, mewn cyfarfod partneriaeth rhanbarthol gyda'r nod o hyrwyddo a chynrychioli blaenoriaethau'r rhanbarth ar gyfer datblygu economaidd, trafodwyd y weledigaeth newydd ar gyfer twf economaidd yng Nghanolbarth Cymru. Adolygodd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru'r cerrig milltir allweddol hyd yma ac ystyriodd lle'r oedd angen addasu'r agwedd ranbarthol at ddatblygu economaidd ymhellach i adlewyrchu nifer o heriau.

Tyfu cyfleoedd yng Nghanolbarth Cymru

Ddydd Llun, Gorffennaf y 24ain yn Sioe Frenhinol Cymru, mynychodd partneriaid Tyfu Canolbarth Cymru dderbyniad i ystyried y cynnydd sydd wedi'i gyflawni hyd yma ac i edrych ymlaen at y camau datblygu nesaf ar draws holl waith y rhanbarth.

Bargen Dwf Canolbarth Cymru yn gobeithio sicrhau'r gyfran gyntaf o arian gan y ddwy Lywodraeth

Yng nghyfarfod Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru a gynhaliwyd ar 28 Mawrth, cymeradwywyd dogfennau allweddol, gan symud Bargen Dwf Canolbarth Cymru gam yn nes at dderbyn cyfanswm o £110m gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Galwad agored ar gyfer ymgeiswyr Cronfa Ffyniant Gyffredin Canolbarth Cymru

Mae Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys yn falch o gyhoeddi y gall sefydliadau yn y rhanbarth gyflwyno eu ceisiadau ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Nghanolbarth Cymru yn fuan.

Busnesau Canolbarth Cymru - dywedwch wrthym beth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer y dyfodol i ddiwallu nodau eich busnes

Bydd Tyfu - Diffinio - Cyflawni Gyda'n Gilydd, sef digwyddiad ymgysylltu a gynhelir gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, yn cael ei gynnal ar fore 23 Mawrth er mwyn rhoi cyfle i chi, busnesau Canolbarth Cymru, ddod at eich gilydd a dweud beth sydd ei angen arnoch ar gyfer y dyfodol i gyflawni nodau eich busnes.

Crewyd partneriaeth newydd a fydd yn canolbwyntio ar sgiliau yng Nghanolbarth Cymru, yn ogystal â helpu i yrru twf economaidd trwy sicrhau bod y rhaglenni datblygu sgiliau iawn ar waith.

Croesawu Cyhoeddiad Gan Lywodraeth Y DU Am Gyllid Ar Gyfer Y Fargen Dwf

Mae arweinwyr y rhanbarth wedi croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth y DU yn cyflymu ei chyllid ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru.

Bargen Twf Canolbarth Cymru'n Cyrraedd Y Camau Datblygu Olaf

Bydd Bargen Twf Canolbarth Cymru'n wynebu penderfyniad dyrys ar ddiwedd y mis pan fydd angen cymeradwyaeth i gyflwyno'r Achos Busnes Portffolio drafft i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Portffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru Yn Cyrraedd Carreg Filltir Allweddol

Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru wedi mynd heibio carreg filltir bwysig ar ôl derbyn cymeradwyaeth i gyflwyno Achos Busnes drafft y Portffolio i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Arweinwyr Cynghorau'n Cyfarfod  Llywodraeth Y DU A Llywodraeth Cymru I Gyrraedd Y Cam Nesaf Ar Gyfer Bargen Twf Tyfu Canolbarth Cymru

Cyfarfu Arweinwyr Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion, yn eu rolau fel cyd-gadeiryddion Cyd-bwyllgor Tyfu Canolbarth Cymru, â'r Aelod Seneddol David TC Davies, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Llywodraeth y DU yng Nghymru, a Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, i drafod Bargen Twf Canolbarth Cymru a chyflawni'r cam nesaf pwysig.

Bargen Twf Canolbarth Cymru Yn Cyrraedd Carreg Filltir Bwysig

Heddiw, llofnodwyd y Cytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth, sef Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu