31.03.25 Mae ymdrechion i wella mynediad i fand eang yng Ngheredigion a Phowys yn parhau, ac mae data newydd yn helpu i arwain y gwaith o gyflwyno mynediad cyflymach i'r rhyngrwyd ar draws y rhanbarth.
Mae Llywodraeth y DU wedi rhyddhau data technegol a ddiweddarwyd ynghylch gwasanaethau band eang, a fydd yn helpu cyflenwyr band eang a llunwyr polisi i gynllunio gwelliannau yn y dyfodol. Er nad yw'r wybodaeth honno wedi'i hanelu at y cyhoedd, mae'n gam pwysig o ran sicrhau bod mwy o gartrefi a busnesau'n gallu cael mynediad yn y dyfodol i fand eang a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid.
Sut y gallwch chi elwa
Er bod y data ei hun yn dechnegol ei natur, gall preswylwyr a busnesau gymryd camau o hyd i helpu i ddod â band eang cyflymach i'w cymunedau:
✅ Gwiriwch eich statws o ran band eang - Defnyddiwch Wiriwr Ffeibr Openreach i weld a allwch chi gael band eang a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid. Cynllun adeiladu band eang Ffeibr Llawn | Openreach
✅ Edrychwch i weld a ydych mewn Ardal Flaenoriaeth ar gyfer Talebau - Mae rhai ardaloedd yn y canolbarth, gan gynnwys Aberteifi, Llandysul, Maesycrugiau a Chastellnewydd Emlyn, yn gymwys i gael talebau band eang a ariennir gan y Llywodraeth. Ym Mhowys, mae Partneriaethau Ffeibr Cymunedol yn ehangu gwasanaethau band eang.
Os ydych mewn ardal gymwys gallai cofrestru helpu i ddylanwadu ar gynlluniau i ehangu band eang, a sicrhau cyllid ar gyfer cysylltedd gwell nad yw'n costio dim i chi. Gallwch wirio a ydych yn gymwys a chofrestru eich diddordeb yma: Cysylltu Fy Nghymuned
Meddai'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys a'r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Er mai defnydd technegol yn bennaf sydd i'r data a ryddhawyd yn ddiweddar, mae'n gam arall tuag at lenwi bylchau o ran band eang ar draws y canolbarth. Mae cael rhyngrwyd dibynadwy, cyflym yn hanfodol i fusnesau a chymunedau, a hoffem annog preswylwyr i wirio a oes modd iddynt elwa o gymorth i gael band eang a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid. Bydd cofrestru eich diddordeb yn awr yn helpu i sicrhau buddsoddiad yn y dyfodol ac yn gwneud yn siŵr nad yw'r canolbarth yn cael ei adael ar ôl."
Mae'r gwaith o gyflwyno'r Prosiect Gigadid yn parhau, ac mae'n bosibl y bydd rhagor o ardaloedd yn gymwys i gael cymorth yn y dyfodol. I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch i gael llythyrau newyddion Tyfu Canolbarth Cymru: Llythyrau Newyddion Tyfu Canolbarth Cymru.
Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn parhau i weithio gyda busnesau, cynghorau lleol a Llywodraeth y DU i ddod â buddsoddiad a band eang gwell i gymunedau ar draws y rhanbarth.
