Toggle menu

Cymeradwyo Cynllun Canolbarth Cymru Ar Gyfer Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

13.12.2022 - Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ynglŷn â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF), mae'r cynllun buddsoddi rhanbarthol ar gyfer Canolbarth Cymru wedi cael cymeradwyaeth ffurfiol.

Cyflwynwyd adroddiad a oedd yn nodi'r strategaeth ynghylch UKSPF yng Nghanolbarth Cymru i Gabinet Cyngor Sir Ceredigion a Phowys lle cymeradwyodd yr aelodau'r trefniadau llywodraethu a rheoli ar gyfer dyraniad y gronfa ar gyfer Canolbarth Cymru. Daeth cadarnhad ers hynny gan Lywodraeth y DU bod y cynllun buddsoddi wedi'i gymeradwyo. Mae hyn bellach yn gadael yr awdurdodau i adolygu, cwblhau a chytuno ar delerau ac amodau'r cyllid cyn ei weithredu gyda phartneriaid lleol cyn gynted â phosibl.

Yn dilyn cyfarfod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar 6 Rhagfyr, dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: "Cafodd cais Canolbarth Cymru am y cyllid ei gyflwyno ar y 1af o Awst felly mae hyn yn newyddion i'w groesawu'n fawr gan Lywodraeth y DU. Mae'n golygu y byddwn ni'n gallu dechrau defnyddio'r cyllid hwn i ddatblygu mentrau allweddol fel rhan o'n strategaeth economaidd.

"Mae swyddogion o Geredigion a Phowys wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd dros y pedwar mis diwethaf er mwyn paratoi ar gyfer penderfyniad. Ond, tan i'r cadarnhad hwn gael ei wneud, mae wedi bod yn amhosib cwblhau'r manylion. Yn amlwg, oherwydd yr oedi cyn cymeradwyo, mae'r dyraniad ar gyfer gwariant yn y flwyddyn gyntaf wedi newid a bydd angen adlewyrchu hyn yn ein cynlluniau."

Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi ymrwymiad ehangach Llywodraeth y DU i godi'r gwastad ym mhob rhan o'r DU drwy gyflawni pob un o amcanion codi'r gwastad:

  • Rhoi hwb i gynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu'r sector preifat, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent ar ei hôl hi;
  • Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent ar eu gwanaf;
  • Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent wedi'u colli; a
  • Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y mannau hynny sydd heb asiantaethau lleol
  • Drwy'r Rhaglen Lluosi, cynyddu lefelau rhifedd gweithredol yn y boblogaeth oedolion (rhaglen rhifedd i oedolion yw Lluosi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU).

Yn dilyn cyfarfod Cabinet Cyngor Sir Powys ar 13 Rhagfyr, dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Mwy Ffyniannus: "Mae'r newyddion hyn wedi cael derbyniad cadarnhaol. Gyda Phowys a Cheredigion yn cydweithio i ryddhau'r cyllid hwn ar gyfer y Canolbarth, bydd modd i ni weld buddsoddiad mewn ardaloedd blaenoriaeth a gwneud y gwelliannau yn y cymunedau a'r busnesau sydd ei angen fwyaf."

Fel y nodwyd yng nghanllawiau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, bydd Ceredigion a Phowys yn defnyddio eu dyraniadau o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin drwy fuddsoddi ar draws y meysydd blaenoriaeth buddsoddi a restrir isod:

Bydd yn cymryd amser i gwblhau'r prosesau ar gyfer gwneud cais am gyllid a llunio cytundebau. Bydd y ddau gyngor yn ceisio cyhoeddi galwadau am geisiadau pan yn barod. Cynghorir ymgeiswyr posib i gadw llygad ar ein sianeli cyfathrebu am ddiweddariadau.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y Cynllun, ar gael ar y dolen yma, www.ceredigion.gov.uk/busnes/cyllid-a-grantiau/cynllun-buddsoddi-rhanbarthol-canolbarth-cymru/ .

Aerial view of a town, people on bicycles, a team of chefs.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu