Toggle menu

Creu Partneriaeth Sgiliau Canolbarth Cymru

04.03.2021 - Crewyd partneriaeth newydd a fydd yn canolbwyntio ar sgiliau yng Nghanolbarth Cymru, yn ogystal â helpu i yrru twf economaidd trwy sicrhau bod y rhaglenni datblygu sgiliau iawn ar waith.

Crewyd partneriaeth newydd a fydd yn canolbwyntio ar sgiliau yng Nghanolbarth Cymru, yn ogystal â helpu i yrru twf economaidd trwy sicrhau bod y rhaglenni datblygu sgiliau iawn ar waith.

Cyhoeddodd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru eu bod yn creu Partneriaeth Sgiliau Canolbarth Cymru.  Bydd y bartneriaeth newydd yn gweithio gydag arweinwyr busnes a rhanddeiliaid yr ardal er mwyn gyrru newid yn y maes sgiliau.

Erbyn hyn mae'r bartneriaeth yn chwilio am gynrychiolydd o'r sector preifat i'w harwain ac mae'r broses o enwebu Cadeirydd bellach wedi cychwyn.

Dywedodd Arweinwyr Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, y Cynghorwyr Ellen ap Gwynn a Rosemarie Harris: "Dyma gyfle cyffrous ar gyfer dysgu a sgiliau yng Nghanolbarth Cymru.   Bydd y bartneriaeth newydd yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau fod y seilwaith dysgu a sgiliau'n diwallu anghenion economaidd a chymdeithasol Canolbarth Cymru.

"Rydym am benodi rhywun o'r sector preifat sydd â'r cymwysterau addas a'r ysbrydoliaeth i gadeirio'r bartneriaeth newydd.  Byddan nhw'n allweddol o ran helpu i wireddu gweledigaeth yr ardal ar ddysgu a sgiliau, yn cynrychioli llais y sector preifat yn yr ardal i ddylanwadu a chefnogi'r gwaith o wneud penderfyniadau'n rhanbarthol ac i hyrwyddo'r ardal ar lefel genedlaethol."

I ofyn am ffurflen enwebu, e-bostiwch jo.weale@powys.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw dydd Llun, 15 Mawrth 2021.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu