Toggle menu

Galwad ar agor yn awr am brosiectau cyfalaf newydd yn y canolbarth wrth i'r rhanbarth ddatblygu rhestr wedi'i diweddaru o brosiectau arfaethedig ar gyfer buddsoddi

10.12.2025 Caiff sefydliadau ar draws y canolbarth eu gwahodd yn awr i gyflwyno cynigion ar gyfer prosiectau cyfalaf newydd er mwyn helpu i lunio rhestr ranbarthol gryfach o brosiectau arfaethedig ar gyfer buddsoddi. Mae'r alwad agored yn fyw erbyn hyn.

Diben y rhestr o brosiectau arfaethedig yw adnabod, cefnogi a pharatoi ystod o brosiectau y mae eu heffaith yn fawr ac sy'n barod ar gyfer buddsoddiad, a all helpu i sbarduno twf economaidd hirdymor ar draws y rhanbarth. Bydd y rhestr yn darparu potensial opsiynau ar gyfer buddsoddi drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru, a bydd hefyd yn golygu bod y canolbarth mewn sefyllfa gref i fanteisio ar gyfleoedd ariannu yn y dyfodol ac ar fuddsoddiad ehangach gan y sector preifat.

Bydd y dull hwn o weithredu, a arweinir gan restr o brosiectau arfaethedig, yn cynorthwyo'r rhanbarth i gyflwyno cynigion uchelgeisiol sy'n rhai y gellir eu cyflawni ac sy'n medru esgor ar fanteision economaidd parhaol ar gyfer y canolbarth — sy'n cynnwys creu swyddi, gwella cynhyrchiant, cryfhau cadwynau cyflenwi a sbarduno twf sectorau.

Mae'r sefydliadau sy'n gymwys yn cynnwys busnesau preifat, awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus ac elusennau cofrestredig. Rhaid bod cyfanswm gwerth cyfalaf y prosiectau rhwng £500,000 a £25 miliwn, rhaid iddynt sicrhau o leiaf 60% o gyllid cyfatebol, a rhaid bod modd eu cyflawni erbyn 2032. Yn ogystal, rhaid i'r cynigion ddangos yn glir eu bod yn cyd-fynd yn strategol â blaenoriaethau rhanbarthol ac amcanion Bargen Twf Canolbarth Cymru.

Mae portffolio presennol y Fargen Twf yn cynnwys buddsoddiadau sy'n hybu arloesi, sgiliau, datblygu ynni adnewyddadwy, capasiti ym maes bwyd-amaeth a gweithgynhyrchu uwch, cysylltedd digidol a seilwaith menter ar draws y canolbarth. Bydd y rhestr wedi'i diweddaru o brosiectau arfaethedig yn helpu i sicrhau bod y portffolio hwn yn parhau'n gytbwys ac yn gydnerth a'i fod yn cyd-fynd yn strategol â chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg.

Meddai'r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a'r Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys, sef Cyd-gadeiryddion Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod canolbarth Cymru mewn sefyllfa dda i sicrhau buddsoddiad yn awr ac yn y dyfodol. Mae diweddaru a chryfhau ein rhestr o brosiectau arfaethedig ar gyfer y rhanbarth yn gam rhagweithiol sy'n sicrhau bod gennym gynigion uchelgeisiol a chredadwy y mae modd eu cyflawni, a fydd yn barod pan fydd cyfleoedd yn codi. Hoffem annog sefydliadau i gysylltu'n gynnar â thîm Tyfu Canolbarth Cymru i drafod a allai eu prosiect nhw fod yn addas."

Byddwn yn edrych i drefnu gweithdai a digwyddiadau cefnogi yn y Flwyddyn Newydd i helpu i egluro'r cyfle ac i ddarparu cymorth i ymgeiswyr posibl - bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyfathrebu yn ei dro.

Mae'r canllawiau, y ffurflenni a'r wybodaeth atodol ar gael yma: https://www.tyfucanolbarth.cymru/GMWPipelineRefreshcy

Cyn cyflwyno cynnig, caiff sefydliadau eu hannog yn daer i gysylltu â Swyddfa Rheoli Portffolio Tyfu Canolbarth Cymru er mwyn cael trafodaeth anffurfiol i ddeall terfynau, gofynion ac amserlenni'r cyllid. Ebost: tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru

I gael newyddion diweddaraf Tyfu Canolbarth Cymru, tanysgrifiwch i'w lythyr newyddion misol: https://www.tyfucanolbarth.cymru/Cysylltwch

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu