Mae'r Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru yn un o bedair partneriaeth ranbarthol yng Nghymru sy'n gweithio i hybu buddsoddiad mewn sgiliau drwy ddatblygu ymatebion seiliedig ar anghenion lleol a rhanbarthol. Rydym yn gweithio ar draws siroedd Ceredigion a Powys yn cymryd ystyriaeth fanwl o flaenoriaethau Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru.
Rydym yn partneriaeth sy'n ymdrechu i weithio ar draws y rhanbarth yn pontio'r bwlch rhwng addysg ac adfywio yn y gobaith o greu economi cryf a bywiog.
Gwyliwch y fideo i ddarganfod mwy am Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru (Cliciwch ar y ddelwedd i gael eich cyfeirio at sianel YouTube Tyfu Canolbarth Cymru):
Diweddariad Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth 2024
Ers lansio Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Partneriaeth Sgiliau RhanbartholCanolbarth Cymru 2022-2025 yn 2023, mae'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol wedi cael blwyddyn adeiladol, ac wedi adeiladu ar ei sylfeini, gan
ganolbwyntio ar y blaenoriaethau a chyflawni ledled Powys a Cheredigion. Gan fyfyrio ar y cyfnod hwn, mae gwaith yr PSRh gyda grwpiau clwstwr newydd a arweinir gan fusnesau wedi effeithio'n fawr ar yr agenda sgiliau, gan ddarparu dealltwriaeth gliriach o'r rhanbarth. Mae gwybodaeth am y farchnad lafur a data ansoddol wedi arwain at newidiadau sylweddol yn economi Canolbarth Cymru, gan ddangos rhagfynegiadau twf uwch na'r disgwyl yn wreiddiol.
Mae'r rhagfynegiadau hyn wedi'u cynnwys yn Diweddariad Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2024: Diweddariad Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth 2024 (PDF) [362KB]
Cyflogi prentisiaid yng Nghanolbarth Cymru
Bu busnesau o'r Canolbarth yn siarad â ni, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, am fanteision cael prentisiaid fel rhan o'u gweithlu. Gwyliwch y fideo i weld beth oedd ganddyn nhw i'w ddweud (Cliciwch ar y ddelwedd i gael eich cyfeirio at sianel YouTube Tyfu Canolbarth Cymru):
Bod yn brentis yn y Canolbarth
Buom yn siarad â phrentisiaid yn y rhanbarth i ddarganfod pam y daethant yn brentis a beth sydd gan y dyfodol iddynt yng Nghanolbarth Cymru. Gwyliwch y fideo i weld beth oedd ganddyn nhw i'w ddweud (Cliciwch ar y ddelwedd i gael eich cyfeirio at sianel YouTube Tyfu Canolbarth Cymru):
Dolen i ddogfennau allweddol Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru.
Hysbysiad Preifatrwydd i aelodau Grŵp Clwstwr Busnes Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru: Hysbysiad Preifatrwydd i aelodau Grŵp Clwstwr Busnes Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru (PDF) [127KB]
Gallwch gysylltu â'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru drwy: midwalesrsp@powys.gov.uk
Dolenni Allanol Cysylltiedig:
•Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru 2021 - 2026
•Cymru gryfach, decach a gwyrddach: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau (2022): Gwarant i Bobl Ifanc
•Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015
•Cymru Sero Net - Cyllideb Garbon 2021-2025