Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn, ledled y DU, o fuddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025.
Prif nod yr UKSPF yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU. Mae hyn yn cyd-fynd â chenadaethau Papur Gwyn Ffyniant Bro, yn enwedig: 'Erbyn 2030, bydd balchder yn ei le, megis boddhad pobl gyda chanol eu tref ac ymgysylltu â diwylliant a chymuned leol, wedi codi ym mhob ardal o'r DU, gyda'r bwlch rhwng y rhai sy'n perfformio orau ac ardaloedd eraill yn cau.'
Drwy awdurdodau lleol y mae'r gwaith o gyflawni'r UKSPF ar draws Prydain, ond yng Nghymru cytunwyd y bydd cynghorau yn cydweithio ar sail ranbarthol. O ran rhanbarth Canolbarth Cymru, yr awdurdod arweiniol yw Cyngor Ceredigion ond bydd Cynghorau Powys a Cheredigion yn rheoli'r gwaith o gyflawni prosiectau yn lleol yn eu hardaloedd.
Gwahoddiad i gyflwyno ceisiadau am gyllid
Mae Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys yn falch o wahodd sefydliadau sydd â diddordeb i wneud cais am gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).
Darllenwch Gynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru cyn dechrau ar eich cais os gwelwch yn dda.
Mae gan y ddau awdurdod lleol ddyraniadau ariannol gwahanol sy'n golygu y gallai cynnwys y galwadau am geisiadau fod yn wahanol ym mhob ardal.
Ewch i wefannau'r awdurdod lleol am wybodaeth fanwl:
Ceredigion: https://www.ceredigion.gov.uk/UKSPFCanolbarthCymru
Powys: https://cy.powys.gov.uk/article/14047/Cronfa-Ffyniant-Gyffredin-y-DU-Yn-Agored-Ar-Gyfer-Ceisiadau
Os ydych yn bwriadu cyflwyno cais rhanbarthol, cysylltwch â'r ddau awdurdod lleol.
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch:
- Ceredigion - ukspf@ceredigion.gov.uk
- Powys - ukspf@powys.gov.uk
Bydd y ffurflen gais a'r nodyn canllaw ar gael ar wefannau'r ddau Gyngor o 20 Mawrth.
Gweminar Canolbarth Cymru Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 16 Mawrth 2023 - Sleidiau Sesiwn Gwybodaeth: Gweminar Canolbarth Cymru UKSPF Mid Wales Webinar (PDF) [660KB]
Dolenni a Dogfennau Defnyddiol