Toggle menu

Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru

Mae dogfen Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2022-25 a gynhyrchwyd gan Awdurdodau Lleol Ceredigion a Phowys ar hyd ôl troed Tyfu Canolbarth Cymru yn nodi'r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi dyraniad UKSPF o £42.4m yn y canolbarth yn ystod y tair blynedd nesaf, hyd at fis Mawrth 2025.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn elfen sylweddol o'i chefnogaeth i lefydd ar draws y DU.

Mae'n darparu £2.6 biliwn o gyllid newydd ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025, gyda phob ardal o'r DU yn derbyn dyraniad.

Mae dogfen Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2022-25 a gynhyrchwyd gan Awdurdodau Lleol Ceredigion a Phowys ar hyd ôl troed Tyfu Canolbarth Cymru yn nodi'r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi dyraniad UKSPF o £42.4m yn y canolbarth yn ystod y tair blynedd nesaf, hyd at fis Mawrth 2025.

Mae'r wybodaeth wedi tarddu o'n strategaethau economaidd lleol ac asesiadau lles, o ddogfennau ac astudiaethau rhanbarthol, gwersi a ddysgwyd o rowndiau ariannu blaenorol a thrwy ymgysylltu'n sylweddol â rhanddeiliaid.

Bydd yr UKSPF yn cefnogi ymrwymiad ehangach Llywodraeth y DU i ffyniant bröydd ymhob rhan o'r DU trwy gyflawni pob un o amcanion y Cynllun Ffyniant Bro:

  • Gwella cynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu'r sector preifat, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent ar ei hôl hi
  • Cynyddu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent ar eu gwanaf
  • Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent wedi'u colli
  • Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y llefydd hynny heb asiantaeth leol
  • Drwy'r Rhaglen Lluosi, cynyddu lefelau rhifedd ymarferol ymhlith oedolion yn y boblogaeth (rhaglen rhifedd i oedolion yw Lluosi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU)

Fel y nodir yng nghanllawiau yr SPF, bydd Ceredigion a Phowys yn defnyddio eu dyraniadau SPF drwy fuddsoddi ar draws y meysydd buddsoddi sy'n flaenoriaeth iddynt ac a restrir isod:

  1. Cymunedau a Lle
  2. Cefnogi Busnesau Lleol
  3. Pobl a Sgiliau
  4. Lluosi
  5. Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2022-25 (PDF) [2MB]

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu