Diweddariad - Galwad y Llif Buddsoddi Cyfalaf
Mae'r alwad am brosiectau cyfalaf newydd yng Nghanolbarth Cymru bellach wedi cau.
Hoffem ddiolch i bob sefydliad a fynegodd ddiddordeb ac a gyflwynodd gynigion fel rhan o'r broses hon.
Mae'r lefel uchel o ymgysylltu wedi helpu i ddatblygu ymhellach ein dealltwriaeth o'r cyfleoedd buddsoddi ar draws y rhanbarth.
Er bod y galwad ffurfiol bellach wedi cau, mae Tyfu Canolbarth Cymru dal yn awyddus i glywed gan sefydliadau sydd â syniadau neu gynigion prosiect sy'n datblygu.
Os hoffech drafod prosiect posibl neu rannu cysyniad ar gam cynnar, cysylltwch â thîm Tyfu Canolbarth Cymru drwy tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru
Bydd hyn yn ein helpu i barhau i ddatblygu'r llif prosiectau rhanbarthol ac i alinio cyfleoedd yn y dyfodol wrth i gyllid ddod ar gael.
Galwad am Brosiectau
Yn dilyn adolygiad diweddar o Bortffolio presennol Bargen Twf Canolbarth Cymru, mae Tyfu Canolbarth Cymru wrthi'n diweddaru ac yn ehangu rhestr y rhanbarth o brosiectau arfaethedig ar gyfer buddsoddi'n strategol. Bydd y rhestr hon o brosiectau arfaethedig yn adnabod, yn datblygu ac yn cefnogi cynigion y mae eu heffaith yn fawr ac sy'n barod ar gyfer buddsoddiad, a all sbarduno twf economaidd hirdymor ar draws y canolbarth. Yn ogystal â darparu opsiynau ar gyfer buddsoddi drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru, bydd y rhestr o brosiectau arfaethedig hefyd yn sicrhau bod y rhanbarth mewn sefyllfa gref i fanteisio ar gyfleoedd yn y dyfodol i gael cyllid cyfalaf a buddsoddiad gan y sector preifat.
Drwy ddatblygu rhestr ranbarthol gadarn ac amrywiol o brosiectau arfaethedig, gallwn sicrhau bod y rhanbarth yn barod i ymateb yn gyflym pan fydd cyfleoedd o ran cyllid yn codi, a sicrhau ar yr un pryd ein bod yn cryfhau'r Portffolio cyffredinol ac yn gwella gallu'r rhanbarth i gyflawni twf economaidd hirdymor.
