Toggle menu

Cyfle i ddweud eich dweud am ddyfodol teithio yng Nghanolbarth Cymru!

05.02.2025 Mae gan bawb yn y Canolbarth - busnesau, pobl leol ac ymwelwyr—gyfle i helpu i lunio dyfodol trafnidiaeth yn y rhanbarth

Mae Tyfu Canolbarth Cymru, yn cynrychioli'r dwy awdurdod lleol Ceredigion a Phowys, sydd hefyd yn Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru, sy'n gyfrifol am gynllunio trafnidiaeth ranbarthol, cynllunio defnydd tir strategol, a hyrwyddo lles economaidd. Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch fersiwn drafft y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, ac mae eich llais yn bwysig!

Mae Canolbarth Cymru yn cynnig cyfleoedd a photensial unigryw, er ei fod yn wynebu cymhlethdodau wrth ddarparu gwasanaethau a gofal iechyd i'w gymunedau gwasgaredig. Nod y Cynllun yw dangos gwelliannau o ran sut yr ydym yn teithio o amgylch y Canolbarth, boed hynny ar gyfer gwaith, ysgol, gofal iechyd, siopa neu hwyl. Mae'n ymwneud â gwneud teithio'n haws, yn wyrddach ac yn well i bawb, tra'n mynd i'r afael â materion pwysig fel newid hinsawdd a hygyrchedd gwledig.

Beth yw'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol?

Mae'r Cynllun hwn yn gynllun ar gyfer y pum mlynedd nesaf a thu hwnt. Bydd yn arwain penderfyniadau ynghylch trafnidiaeth, o wella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus i greu llwybrau cerdded a beicio mwy diogel. Y nod yw gwneud teithio o amgylch y Canolbarth yn well i bobl ac i'r blaned.

Meddai'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Rydym am glywed gan bawb - trigolion, busnesau, a hyd yn oed twristiaid - oherwydd mae trafnidiaeth yn effeithio ar bob un ohonom. Bydd eich syniadau'n helpu i greu system sy'n gweithio i bobl y Canolbarth yn awr ac yn y dyfodol."

Mae'r ymgynghoriad yn adlewyrchu arbenigedd a chydweithrediad cyfun Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru, ei Is-bwyllgor Trafnidiaeth, a phartneriaid allweddol fel Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys, Trafnidiaeth Cymru, a Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd y Cynghorydd Bryan Davies, Is-Gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Mae a wnelo'r Cynllun hwn â gwneud teithio'n haws ac yn well i bawb, gan warchod ein hamgylchedd ar yr un pryd. P'un a ydych yn rhedeg busnes, yn byw yma, neu'n ymweld â'r ardal, mae eich barn yn hanfodol. Rhannwch eich barn a helpwch ni i wneud gwahaniaeth go iawn."

Gwyliwch y Cynghorydd James Gibson-Watt, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Powys a'r Cynghorydd Bryan Davies, Is-Gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion yn esbonio'r ymgynghoriad ar Gynllun drafft Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru: https://youtu.be/v_eznQ4eyew?feature=shared

Sut gallwch chi gymryd rhan?

Mae'r ymgynghoriad ar agor nawr hyd 4ydd o Ebrill 2025, ac mae'n hawdd cymryd rhan:

  • Ffurflen y gellir ei lawrlwytho: A yw'n well gennych ddefnyddio beiro a phapur? Os felly, gallwch hefyd ofyn am gopi papur o'r ymgynghoriad gan eich llyfrgell leol neu'ch canolfan hamdden.

Bydd yr holl adborth a gawn yn ystod yr ymgynghoriad hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r gwaith sy'n weddill i gwblhau'r Cynllun. Bydd hwn yn llywio penderfyniadau mawr am drafnidiaeth a chyllid am flynyddoedd i ddod. P'un a ydych yn cerdded, yn gyrru, yn beicio neu'n rhedeg busnes, mae eich llais yn bwysig!

Gwnewch wahaniaeth heddiw. Treuliwch 10 munud yn rhannu eich barn ac yn helpu i wneud y Canolbarth yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo ac ymweld ag ef. Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu system drafnidiaeth sy'n gweithio i bawb.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu