Toggle menu

Tyfu Canolbarth Cymru yn lansio Adnodd Gwirio Signal Dyfeisiau Symudol

04.09.24 Mae Tyfu Canolbarth Cymru wedi bod yn cydweithio â Streetwave, sy'n dadansoddi signal dyfeisiau symudol, i fapio signal dyfeisiau symudol ar draws y rhanbarth gan ddefnyddio cerbydau casglu gwastraff.

Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn sicrhau bod y canlyniadau ar gael i breswylwyr a busnesau lleol, drwy gyfrwng adnodd arloesol ar gyfer gwirio signal.

Ym mis Mehefin 2024, cafodd dyfeisiau casglu data eu gosod mewn cerbydau casglu gwastraff ar draws Powys a Cheredigion. Mae'r dyfeisiau hyn wedi bod yn cynnal arolygon sylw ansawdd rhwydwaith symudol ar hyn o bryd yn cwmpasu dros 95% o eiddo yn y rhanbarth sy'n cael eu diweddaru o bryd i'w gilydd.

Mae signal rhwydweithiau wedi cael ei ddadansoddi'n barhaus ar draws y pedwar prif rwydwaith dyfeisiau symudol yn y DU, sef EE, O2, Three a Vodafone. Mae'r arolygon hyn yn casglu gwybodaeth am ba mor gyflym y mae deunydd yn pasio drwy'r rhwydwaith, cryfder y signal, a chenhedlaeth y rhwydwaith.

Gall y cyflymder ar gyfer dyfeisiau symudol amrywio'n aruthrol, hyd yn oed ar draws rhwydweithiau 3G, 4G a 5G - mae'r cyflymder gwirioneddol yn amrywio oherwydd ystod o ffactorau.

Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn sicrhau, felly, bod canlyniadau ein gwaith mapio ar gael er mwyn cynorthwyo preswylwyr a busnesau i wneud dewisiadau deallus am eu hopsiynau o ran cysylltedd ar gyfer dyfeisiau symudol.

Mae'n bwysig nodi nad yw'r data yn ein hadnodd gwirio signal dyfeisiau symudol yn ddata pendant, ac na ddylai gael ei ddefnyddio ond fel adnodd ychwanegol ochr yn ochr â ffynonellau eraill o wybodaeth.

Caiff y data ei ddiweddaru bob mis pan fydd y cerbydau casglu gwastraff yn ailadrodd eu gwasanaethau, er mwyn sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf am ba mor gyflym y mae deunydd yn pasio drwy'r rhwydwaith yn cael ei dangos. Gall preswylwyr ddefnyddio'r adnodd gwirio i weld yr union gyflymder lawrlwytho a'r union gyflymder lanlwytho y mae EE, Vodafone, Three ac O2 yn eu cynnig o fewn pellter o 30 metr i'w cartrefi neu'u busnesau. Yr unig beth y mae angen i'r preswylwyr ei wneud i weld y canlyniadau yw nodi eu cod post a dewis eu cyfeiriad. Mae'r adnodd gwirio signal yn gweithio ar gyfer cyfeiriadau yng Ngheredigion a Phowys.

Meddai'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys, a'r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, sef Cyd-gadeiryddion Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru: "Mae'r fenter hon yn dangos ein hymrwymiad i wella cysylltedd digidol ar draws ein rhanbarth. Drwy sicrhau bod preswylwyr a busnesau'n gallu cael canlyniadau data go iawn am signal dyfeisiau symudol, rydym yn eu galluogi i wneud dewisiadau deallus ac i wella eu mynediad i wasanaethau rhwydweithiau sy'n ddibynadwy."

Gallwch ddefnyddio'r adnodd gwirio signal dyfeisiau symudol yma: www.tyfucanolbarth.cymru/SignalSymudol

Mae'r adnodd gwirio signal yn rhan o brosiect Tyfu Canolbarth Cymru i fapio signal dyfeisiau symudol. Caiff ei gefnogi gan awdurdodau lleol Powys a Cheredigion a'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Bydd diweddariadau am gynnydd y prosiect yn cael eu rhannu'n rheolaidd, a gall partïon sydd â diddordeb gofrestru i gael llythyr newyddion Tyfu Canolbarth Cymru er mwyn cael rhagor o wybodaeth, tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru.

GMW Mobile coverage checker poster CYMRAEG

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu