Cwrdd y Tîm
Mae gan Tyfu Canolbarth Cymru dri thîm rhanbarthol er mwyn sicrhau datblygiad a chyflawniad y Weledigaeth ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru, gan gynnwys Bargen Twf Canolbarth Cymru.
Wrth i bob tîm gyflawni swyddogaeth benodol, maent oll yn cydweithio'n agos er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei alinio a'i integreiddio ar draws y rhanbarth.
Gallwch gysylltu â'r Swyddogion Rhanbarthol ym Mhowys a Cheredigion drwy: tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru
Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol (RET) Canolbarth Cymru
Mae RET yn gweithio ar draws pob sector er mwyn sicrhau cyfranogiad effeithiol a llwyddiant buddsoddiadau a ariannir gan UE - gan ychwanegu gwerth i fuddsoddiadau presennol/arfaethedig o fewn cyd-destun gweithgareddau a chyfleoedd thematig a rhanbarthol sefydledig ac sy'n dod i'r amlwg. Mae'r tîm yn cyflawni'r swyddogaethau strategaeth, cynllunio ac ymgysylltu er mwyn gwireddu'r Weledigaeth ar gyfer Canolbarth Cymru.
Y Tîm RET
Claire Miles - Rheolwr Ymgysylltu Rhanbarthol Canolbarth Cymru
Ann Elias - Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni Trafnidiaeth Rhanbarthol
Barbara Green - Swyddog Cymorth Prosiectau
Ariannir RET yn rhannol gan Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd trwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, ynghyd â Chyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys.
Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (RSP) Canolbarth Cymru
Mae'r RSP yn bartneriaeth a arweinir gan fyd busnes yn bennaf, sy'n gweithio gydag arweinwyr busnes, partneriaid a rhanddeiliaid ar draws y rhanbarth er mwyn deall y ddarpariaeth sgiliau ac anghenion y farchnad lafur, er mwyn ysgogi buddsoddiad sy'n bodloni gofynion cyflogwyr a'r gweithlu. Mae'r RSP yn pontio'r bwlch rhwng addysg ac adfywio er mwyn creu economi gref a ffyniannus sy'n seiliedig ar arloesedd, twf a gweithlu galluog.
Y Tîm RSP:
Aggie Caesar-Homden - Rheolwr Partneriaeth
Louise Grove-White - Swyddog Prosiect
Teresa Peel Jones - Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr
Arinola Ogundeji - Swyddog Cymorth Prosiectau
Lily Else - Swyddog Cymorth Prosiectau
Gallwch gysylltu â'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru drwy: midwalesrsp@powys.gov.uk
Ariannir yr RSP yn llawn gan Lywodraeth Cymru trwy gyfrwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Swyddfa Rheoli Portffolio (PoMO) Canolbarth Cymru
Mae'r PoMO yn gyfrifol am ddatblygiad a darpariaeth rhaglen waith ranbarthol ar y cyd (portffolio) er mwyn helpu i gyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru a'r Weledigaeth ehangach ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru. Mae'r Fargen Twf yn rhaglen gyfalaf a gaiff ei chynorthwyo gan gyllid Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo adferiad economaidd a thwf i gynorthwyo gweithgarwch creu swyddi a chynyddu cynhyrchiant ac uchelgais amgylcheddol a chymdeithasol ehangach.
Wefan Bargen Dwf Canolbarth Cymru
Y Tîm PoMO:
Cathy Martin - Rheolwr Gweithrediadau Tyfu Canolbarth Cymru
David Owen - Rheolwr Rhaglen Digidol Tyfu Canolbarth Cymru
John Collingwood - Rheolwr Rhaglen Safleoedd ac Adeiladau Tyfu Canolbarth Cymru
Gareth Marston - Rheolwr Prosiect ESF Tyfu Canolbarth Cymru
Stacey-Jayne Oakham - Swyddog Dadansoddi a Chefnogi Portffolio Tyfu Canolbarth Cymru
Angharad Massow - Swyddog Cyfathrebu Tyfu Canolbarth Cymru
Mae'r PoMO yn cael ei ariannu /cefnogi'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru*, ynghyd â Chyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Powys a Phrifysgol Aberystwyth.
*gweler https://llyw.cymru/cronfeydd-yr-ue am fwy o fanylion.