Mae'r Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth yn fframwaith cynhwysfawr y bwriedir iddo arwain twf cynaliadwy ar draws y rhanbarth sy'n cynnwys Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar faterion sy'n croesi ffiniau Awdurdodau Cynllunio Lleol a bydd yn ystyried sut y mae pobl yn y rhanbarth yn byw o ddydd i ddydd, gan gynnwys eu patrymau gweithio a theithio i'r gwaith, eu harferion siopa a'u gweithgareddau hamdden. Bydd hefyd yn adnabod y lleoliadau strategol a'r mannau lle gall twf a newid ddigwydd yn y dyfodol.
Drwy feithrin cydweithredu ymhlith awdurdodau lleol, busnesau a rhanddeiliaid, nod y Cynllun Datblygu Strategol yw sicrhau datblygu cytbwys a chynhwysol sy'n adlewyrchu dyheadau amrywiol y boblogaeth.
Mae'n fan canol rhwng y Cynllun Cenedlaethol a Chynlluniau Datblygu Lleol, a bydd yn darparu cyd-destun strategol ar gyfer paratoi Cynlluniau Datblygu Lleol diweddarach. Mae canllaw cyflym i Gynlluniau Datblygu yng Nghymru i'w weld ar wefan Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-05/cynlluniau-datblygu-yng-nghymru-canllaw-cyflym_0.pdf
Mae'r cynllun yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol a dyletswyddau statudol a bennwyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru, ac mae'n sicrhau bod gwaith cynllunio rhanbarthol yn strategol ac yn effeithiol.
Mae datblygu Cynllun Datblygu Strategol yn rhoi cyfle i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth sicrhau bod twf strategol, pwysig o safbwynt rhanbarthol, yn cael ei gynllunio a'i gyflawni yn well ac mewn modd cydlynus a thrawsffiniol sy'n cyd-fynd â'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Mae rhagor o wybodaeth am Gynlluniau Datblygu cyffredinol yng Nghymru i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru: Canllawiau ar gynlluniau datblygu i gymunedau | LLYW.CYMRU
Ar hyn o bryd, mae'r Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi sefydlu is-grŵp ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol, sy'n gweithio yn rhanbarthol i rannu adnoddau a chydweithredu ar ymchwil wrth i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Sir Powys ymgymryd â'r gwaith o lunio cynlluniau newydd yn lle'r rhai presennol. Cyngor Sir Ceredigion yw'r awdurdod arweiniol rhanbarthol ar gyfer unrhyw gwestiynau'n ymwneud â'r Cynllun Datblygu Strategol. Mae croeso i chi gysylltu drwy anfon ebost i ldp@ceredigion.gov.uk