Toggle menu

Ein Heconomi

Crynodeb o'r economi Canolbarth Cymru

Mae economi Canolbarth Cymru yn cael ei nodweddu'n aml fel rhanbarth mawr a gwledig yn bennaf sy'n cynnwys 34% o dirfas Cymru . Mae'n adnabyddus am ei harddwch naturiol, hunaniaethau diwylliannol a threftadaeth cryf.

Mae'n llai adnabyddus fel tir o gyfleoedd economaidd digyffwrdd lle mae cyfraddau goroesi busnes yn uwch na chyfartaledd Cymru, lle mae ein hasedau naturiol ac academaidd yn cynnig dewis amlwg ar gyfer ymchwil arloesol gan ddarparu cyfleoedd cryf i greu clystyrau diwydiannol newydd, lle y ceir marchnad lafur cryf ond amrywiol gyda chysylltiadau cymudo strategol o fewn a'r tu allan i'r rhanbarth i rannau eraill o Gymru ac ar draws y ffin i Loegr.

Mae daearyddiaeth economi Canolbarth Cymru yn gydran hanfodol o ran ysgogi a chefnogi twf rhyng-ranbarthol ar draws Cymru a'r DU, lle mae cyfanswm ei effaith economaidd yn fwy na swm ei rannau unigol. Mae'r rhanbarth yn ffinio gogledd a de Cymru yn ogystal â siroedd Swydd Amwythig a Swydd Henffordd yn Lloegr. Mae effaith rhanbarthau eraill ar economi Canolbarth Cymru yn allweddol ac mae angen i gynlluniau adlewyrchu'r rhyng-ddibyniaeth hon.

Mae gan economi'r rhanbarth ei heriau ei hun o ran rhoi sylw i'r gwendidau strwythurol sy'n rhwystro potensial ein preswylwyr a'n busnesau rhag ffynnu ar hyn o bryd. Mae cysylltedd gwael, Gwerth Ychwanegol Gros isel y pen, seilwaith sgiliau cyfyngedig, cyfyngiadau grid a diffyg seilwaith busnes ategol i gyd yn chwarae eu rhan wrth gyfyngu ar botensial y rhanbarth i fanteisio ar ein cyfleoedd.

Fodd bynnag, er nad yw'r heriau a wynebwn yn unigryw, mae'r cyfleoedd sydd gennym yn wahanol ac wedi'u gwreiddio o fewn ein rhanbarth.

Economi Canolbarth Cymru cipolwg sydyn

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu