Toggle menu

Y Weledigaeth

Mae'r Weledigaeth ar gyfer Canolbarth Cymru a dogfen gynnig

Tyfu canolarth Cymru huchelgais

Ein huchelgais yw i Ganolbarth Cymru fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael i greu a chefnogi twf economaidd a chymdeithasol. Drwy oresgyn ei heriau, gall Canolbarth Cymru ddod yn rhanbarth tecach a challach sy'n gallu rhoi sylw i'w her cynhyrchiant.

Ein Gweledigaeth ar gyfer Canolbarth Cymru yn 2035

Erbyn 2035 bydd Canolbarth Cymru yn:

"Rhanbarth mentrus ac unigryw sy'n cyflawni twf economaidd wedi'i ysgogi gan arloesedd, sgiliau, cysylltedd a swyddi mwy cynhyrchiol sy'n cefnogi cymunedau ffyniannus a dwyieithog."

Trwy weithio'n gydweithredol ac mewn modd integredig, byddwn yn adeiladu ar ein hasedau unigryw i sicrhau bod economi'r rhanbarth yn cael ei hadnabod am y nodweddion canlynol:

MENTRUS - ar agor i fusnesau, hen a newydd. Lle i ddechrau a thyfu menter i wella cynhyrchiant rhanbarthol gyda safon dda o fywyd. 

MEDRUS - marchnad lafur fedrus a hyblyg a gefnogir gan ddysgu academaidd a galwedigaethol sy'n ymateb i alwadau diwydiant gan wrthdroi tueddiadau poblogaeth presennol.

ARLOESOL - lle ar gyfer arloesi, datblygu cynhyrchion a phrosesau newydd ac sy'n manteisio ar gryfderau ymchwil a diwydiant presennol ac yn creu clystyrau diwydiannol newydd/cryfhau'r rhai sydd eisoes yn bodoli.

CYSYLLTIEDIG - rhanbarth sydd wedi'i gysylltu'n llawn, gan ddatgloi ei botensial economaidd, ysgogi twf busnes ac arloesi a gwella symudedd cymdeithasol a llafur.

CYNHYRCHIOL - economi gryf a chynhyrchiol sy'n darparu'r amodau iawn i fusnesau gynhyrchu swyddi o safon well, gyda thâl uwch ochr yn ochr â chyfleoedd cyflogaeth gwell.

FFYNIANNUS - economi ranbarthol sydd wedi'i gwreiddio mewn tegwch a chydraddoldeb cyfle gyda llwybrau hyfforddi a chyflogaeth hygyrch.

UNIGRYW - rhanbarth gyda thirwedd a threftadaeth naturiol a diwylliannol unigryw, sy'n cynnig safon bywyd eithriadol a'r potensial i arwain datgarboneiddio a thwf glân yn y DU.
 

Blaenoriaethau Twf Strategol
 

Nodwyd wyth Blaenoriaethau Twf Strategol o fewn y ddogfen Gweledigaeth. Maent yn canolbwyntio ar y prif gryfderau a chyfleoedd i wella economi Canolbarth Cymru.

Blaenoriaethau Twf Strategol

Darllenwch y Gweledigaeth ar Gyfer Tyfu Canolbarth Cymru Cynllun Economaidd Strategol a Map Ffordd y Fargen Twf trwy'r ddolen isod:

GWELEDIGAETH AR GYFER TYFU CANOLBARTH CYMRU Cynllun Economaidd Strategol a Map Ffordd y Fargen Twf (PDF) [1MB]

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu