Toggle menu

Trafnidiaeth Canolbarth Cymru

 

Amdamoni Ni

Mae'r ardal Trafnidiaeth Canolbarth Cymru, a elwid gynt yn TraCC,  yn cynnwys canolbarth Cymru o'r ffin â Lloegr yn y dwyrain hyd at arfordir Cymru yn y gorllewin ac yn cynnwys awdurdodau lleol Powys a Geredigion. Hefyd, mae'r ardal yn cynnwys rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. O 1 Ebrill 2024, cynllunio Trafnidiaeth Canolbarth Cymru yw cyfrifoldeb Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru.

Mid Wales map

 

Beth fyddwn ni'n ei wneud?

Bws

Byddwn yn cydweithio â swyddogaethau priffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus Cyngor Sir Ceredigion a Powys, i gynllunio a dylanwadu ar bolisi ar atebion rhanbarthol penodol i faterion trafnidiaeth integredig, datgarboneiddio lleol.

Byddwn yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni ei strategaeth drafnidiaeth genedlaethol a fydd yn integreiddio polisïau trafnidiaeth ar sail ranbarthol ac yn nodi blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol mewn cydweithrediad â phartneriaid.

 

Ein gweledigaeth bresennol yw:

Tren

"Cynllunio ar gyfer, a darparu mewn partneriaeth, system drafnidiaeth integredig yn rhanbarth Canolbarth Cymru sy'n hwyluso datblygu economaidd, yn sicrhau mynediad i bawb i wasanaethau a chyfleoedd, cynnal a gwella ansawdd bywyd cymunedol ac yn parchu'r amgylchedd".

 

Sut i gysylltu â  ni:

Gallwch gysylltu â'r Swyddogion Rhanbarthol ym Mhowys a Cheredigion drwy:

tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru

Dogfennau TraCC

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu

Dolenni Tudalennau