Toggle menu

Beth yw Cynllun Ynni Ardal Leol?

Comisiynwyd Catapult Energy Systems ac Afallen i greu Cynlluniau Ynni Ardal Leol (CYALl) ar gyfer Ceredigion a Phowys. Bydd y cynlluniau hyn yn paratoi'r ffordd ar gyfer galluogi gweithredu lleol effeithiol a fydd yn cyfrannu at darged allyriadau sero net 2050.

Mae Cynllunio Ynni Ardal Leol yn ddull sy'n cael ei yrru gan ddata sy'n ceisio gwella ein dealltwriaeth o sut mae ardal leol yn debygol o ddatgarboneiddio ei sector ynni. Mae modelu Cynllunio Ynni Ardal Leol yn cynnwys popeth o gyflenwad ynni a'r galw i drafnidiaeth, adeiladau a diwydiant. Cynlluniwyd y cynlluniau lleol mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid o bob rhan o Ganolbarth Cymru.

Mae'r allbynnau'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn gynllun gofodol sydd yn nodi: beth yw'r atebion, lle y dylid eu defnyddio, faint y byddant yn ei gostio, pryd y dylid eu dilyn a chan bwy.  

Mae'r atebion yn cynnwys cymysgedd o: 

  • Buddsoddiad seilwaith grid
  • Technolegau carbon isel (e.e. cynhyrchu trydan adnewyddadwy, pympiau gwres, cerbydau trydan)
  • Datrysiadau sy'n lleihau'r galw am ynni (e.e. mesurau effeithlonrwydd ynni, teithio llesol

Pam mae'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn bwysig?

  • Er bod camau'n cael eu cymryd i drosglwyddo i allyriadau sero-net yng Nghanolbarth Cymru (e.e.  datgarboneiddio adeiladau cyhoeddus, cyflwyno pwyntiau gwefru cerbydau trydan), mae angen i gyflymder y newid gynyddu'n sylweddol.
  • Mae Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn helpu i nodi lle gall rhanddeiliaid yng Nghanolbarth Cymru ddod ynghyd i weithio tuag at drosglwyddo i system ynni carbon isel, teg a chyfartal lle gellir creu a chynnal buddionyn ein rhanbarth. Bydd y gwaith hwn yn ategu gwaith ynni rhanbarthol ehangach sydd ar y gweill sydd, yn rhannol, yn llywio polisi ynni Llywodraeth Cymru.
  • Mae Llywodraethu Cymru wedi ymrwymo i raglen fawr o gyflwyno Cynlluniau Ynni Ardal Leol, fel y bydd gan bob rhan o Gymru gynllun. Gwyliwch y fideo canlynol gan Lywodraeth Cymru sydd yn esbonio Cynlluniau Ynni Ardal Leol yng Nghymru: https://youtu.be/kUGUMZzrfI4

Esbonnir allbynnau allweddol o Gynlluniau Ynni Ardal Leol Ceredigion a Phowys yma (PDF) [3MB]

Bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cyhoeddi eu Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn 2024, yna bydd y rhain yn cael eu graddio i greu Cynllun Ynni Cenedlaethol i Gymru, gan fapio'r galw am ynni a'r cyflenwad yn y dyfodol ar gyfer pob rhan o Gymru. Yn ddiweddar, mae Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys wedi cymeradwyo eu Cynlluniau Ynni Ardal Lleol (CYALl).

Mae adroddiadau CYALl ar gael i'w gweld yma:

Mae prif ganfyddiadau'r CYALl yn cynnwys:

  • Prosiectau blaenoriaeth uchel
    Pympiau gwres: Mae'r CYALl yn amcangyfrif y bydd angen gosod 86000 o bympiau gwres erbyn 2050 ar draws Canolbarth Cymru.
    Uwchraddio effeithlonrwydd ffabrig: Gallai 61400 o gartrefi gael budd gan welliannau i'w ffabrig fel inswleiddio a gwydr dwbl.
    Systemau ynni lleol deallus: Gallai defnyddio trydan yn lleol mewn ffordd ddeallus a hyblyg leihau biliau ynni gymaint ag y bo modd, cynyddu perchnogaeth leol ynni adnewyddadwy, a lleihau'r angen i uwchraddio'r rhwydwaith.
    Rhwydwaith gwres: Nodwyd mai Aberystwyth yw'r lleoliad mwyaf addas er mwyn cael rhwydwaith gwres rhanbarthol yng Nghanolbarth Cymru.
    Cerbydau trydan: Bydd angen i'r gwaith o osod seilwaith gwefru gyfateb â'r cynnydd rhagamcanol yn nifer y cerbydau trydan yng Nghanolbarth Cymru.
  • Buddsoddi: Mae'r CYALl yn amcangyfrif bod angen buddsoddiad ychwanegol o £1.95 biliwn yng Nghanolbarth Cymru er mwyn sicrhau sero net, a bydd angen i 40% o hwn fod ar gyfer uwchraddio eiddo domestig.
  • Sgiliau: Mae rhoi sylw i'r bwlch sgiliau yn y rhanbarth yn hanfodol er mwyn galluogi i fesurau effeithlonrwydd a gosod pympiau gwres a phaneli solar gael eu gweithredu ar raddfa.  Mae'r CYALl yn amcangyfrif y gallai 995 o swyddi ychwanegol gael eu creu yn lleol erbyn 2050.
  • Cynhyrchu ynni adnewyddadwy: Mae gan Ganolbarth Cymru y potensial i gynhyrchu swm sylweddol o ynni adnewyddadwy.  Fodd bynnag, mae rhanddeiliaid wedi amlygu pwysigrwydd sicrhau bod buddion yn cronni yn lleol (e.e. rhanberchnogaeth, biliau is).
  • Uwchraddio'r rhwydwaith trydan: Bydd y rhwydweithiau ynni yn defnyddio allbynnau'r CYALl i gyfrannu at eu gweithgarwch cynllunio busnes.
  • Manteision lluosog: Bydd mentrau a awgrymir yn y CYALl yn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, lleddfu tlodi tanwydd, gwella iechyd, a chreu swyddi.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu