Toggle menu

Adnodd gwirio signal dyfeisiau symudol

Gwelwch cyflymder lawrlwytho a'r union gyflymder lanlwytho y mae EE, Vodafone, Three ac O2 yn eu cynnig o fewn pellter o 30 metr i'ch cartref neu'ch busnes

Mae rhwydweithiau dyfeisiau symudol yn chwarae rhan allweddol o safbwynt sicrhau bod preswylwyr y DU yn parhau'n gynhyrchiol, yn saff ac wedi'u cysylltu. Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn gweithio gyda Streetwave, sy'n dadansoddi signal dyfeisiau symudol, i fesur ansawdd signal ar gyfer dyfeisiau symudol ar draws y rhanbarth.

Defnyddiwch y ddolen gyswllt hon i nodi eich cod post, dewis eich cyfeiriad a gweld y canlyniadau: Gwirio Signal Ffonau Symudol

Drwy ddefnyddio dyfeisiau symudol datblygedig ar gyfer casglu data, a osodwyd mewn cerbydau casglu gwastraff ar draws Powys a Cheredigion, mae data gan y pedwar prif Weithredwr Rhwydweithiau Dyfeisiau Symudol - EE, O2, Three a Vodafone - yn cael ei gasglu. O'r data hwn, gellir dadansoddi gwybodaeth am ba mor gyflym y mae deunydd yn pasio drwy'r rhwydwaith, cryfder y signal, a chenhedlaeth y rhwydwaith. 

Mae'r data hwn ar gael i'r rhanbarth yn awr ar ffurf adnodd gwirio signal dyfeisiau symudol. Defnyddiwch y ddolen gyswllt uchod i weld yr union gyflymder lawrlwytho a'r union gyflymder lanlwytho y mae EE, Vodafone, Three ac O2 yn eu cynnig o fewn pellter o 30 metr i'ch cartref neu'ch busnes. Caiff y data ei ddiweddaru bob mis pan fydd y cerbydau casglu gwastraff yn ailadrodd eu gwasanaeth, er mwyn sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf am ba mor gyflym y mae deunydd yn pasio drwy'r rhwydwaith yn cael ei dangos.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu