Toggle menu

Y Sefyllfa Bresennol o ran Cysylltedd yng Nghanolbarth Cymru

Cynnydd dros y Blynyddoedd Diwethaf

  • Gwnaethpwyd cynnydd sylweddol o ran y seilwaith digidol ar draws Canolbarth Cymru, er bod heriau gwledig sylweddol yn bodoli o hyd.
  • Mae prosiectau mawr, megis Cyflymu Cymru LlC, wedi dwyn band eang cyflym iawn ac a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid i filoedd o eiddo, gan wella cynhwysiant digidol.  Mae sawl prosiect a ariannir gan arian cyhoeddus ac arian masnachol yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd er mwyn gwella'r ddarpariaeth bresennol.

Cymhariaeth band eang yng Nghanolbarth Cymru

·  FTTP (Fiber to the Premises)

  • Canolbarth Cymru (Dechrau'r Rhaglen - Ebr 22): 27.7%
  • Canolbarth Cymru (Presennol - Meh 24): 50.6% (+22.9%)
  • Cyfartaledd yng Nghymru: 66.7%
  • Cyfartaledd yn y DU: 67%
  • Eiddo sy'n weddill: 59,989

·  Cyflym iawn (30Mbps+)

  • Canolbarth Cymru (Dechrau'r Rhaglen - Ebr 22): 86.3%
  • Canolbarth Cymru (Presennol - Meh 24): 89.7% (+3.4%)
  • Cyfartaledd yng Nghymru: 97.3%
  • Cyfartaledd yn y DU: 98%
  • Eiddo sy'n weddill: 12,508

·  Dan 10 Mbps (USO)

  • Canolbarth Cymru (Presennol - Meh 24): 6.5%
  • Cyfartaledd yng Nghymru: 1.6%
  • Cyfartaledd yn y DU: 1.2%
  • Eiddo sy'n weddill: 7,893

Cymhariaeth band eang yng Nghanolbarth Cymru

  • Mae'r cwmpas 4G symudol wedi ehangu, yn arbennig trwy ymyriadau a ddarparwyd gan y rhaglen Rhwydwaith Gwledig a Rennir (SRN), ond nid yw ymyriadau lluosog wedi cael eu cwblhau eto.  Bydd ardaloedd lle y gwelir cwmpas symudol a darpariaeth capasiti gwael yn parhau yn dilyn ymyrraeth SRN.

Effaith SRN a ragwelir yng Nghymru

Canolbarth a Gorllewin Cymru

  • Cwmpas 4G gan y 4 MNO
    • Cyn SRN: 51%
    • Disgwyliedig ar ôl SRN: 78%
  • Cwmpas 4G gan o leiaf 1 MNO
    • Cyn SRN: 86%
    • Disgwyliedig ar ôl SRN: 97%

Gogledd Cymru

  • Cwmpas 4G gan y 4 MNO
    • Cyn SRN: 63%
    • Disgwyliedig ar ôl SRN: 83%
  • Cwmpas 4G gan o leiaf 1 MNO
    • Cyn SRN: 93%
    • Disgwyliedig ar ôl SRN: 98%

Canol De Cymru

  • Cwmpas 4G gan y 4 MNO
    • Cyn SRN: 82%
    • Disgwyliedig ar ôl SRN: 90%
  • Cwmpas 4G gan o leiaf 1 MNO
    • Cyn SRN: 98%
    • Disgwyliedig ar ôl SRN: 99%

Dwyrain De Cymru

  • Cwmpas 4G gan y 4 MNO
    • Cyn SRN: 71%
    • Disgwyliedig ar ôl SRN: 89%
  • Cwmpas 4G gan o leiaf 1 MNO
    • Cyn SRN: 95%
    • Disgwyliedig ar ôl SRN: 99%

Gorllewin De Cymru

  • Cwmpas 4G gan y 4 MNO
    • Cyn SRN: 79%
    • Disgwyliedig ar ôl SRN: 88%
  • Cwmpas 4G gan o leiaf 1 MNO
    • Cyn SRN: 97%
    • Disgwyliedig ar ôl SRN: 99%

Effaith SRN a ragwelir yng Nghymru

Mae Cynghorau Sir Powys a Cheredigion yn croesawu ac yn datblygu technolegau newydd megis LoRaWAN i gynorthwyo gweithrediadau sefydliadol a busnes.  O'i chymharu â'r sefyllfa mewn Awdurdodau Lleol eraill, gwelir nifer uchaf y pyrth LoRaWAN yn cael eu defnyddio yn y ddwy Sir.

Sir                          Pryth

  • Powys                      64
  • Ceredigion               52
  • Sir Gaerfyrddin        46
  • Gwynedd                 45
  • Rhondda Cynon Taf  35
  • Sir Benfro                 34
  • Enghraifft o ddefnydd pyrth LoRaWAN

Prif Heriau

  • Darpariaeth Band Eang- Er gwaethaf y cynnydd, mae band eang cyflym iawn a gigadid ar ei hôl hi o hyd o'i gymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru a'r DU.  Mae sawl prosiect a ariannir gan arian cyhoeddus a masnachol yn digwydd ar draws y rhanbarth.
  • Darpariaeth Symudol- Mae'r cwmpas a'r capasiti mewn rhai ardaloedd yn parhau i fod yn gyfyngedig oherwydd y topograffeg.  Mae prosiect a ariannir gan SPF wedi cychwyn i 'fapio' data yn annibynnol er mwyn cynorthwyo ymyrraeth a datblygiad prosiectau.
  • Bwlch Sgiliau Digidol- Mae gofyn i'r rhanbarth, sydd â demograffeg sy'n tyfu ac sy'n heneiddio, gael cymorth wedi'i dargedu er mwyn addasu i dechnolegau digidol newydd a chael budd ganddynt.  Bydd y dull gweithredu hwn yn helpu i bontio'r rhaniad digidol a meithrin twf economaidd.
  • Cyllid- mae maint y broblem yn sylweddol ac yn dilyn mentrau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, megis SRN, Prosiect Gigadid, VHTR, yn ogystal â buddsoddiad gan TCC, mae'n debygol y bydd ardaloedd lle y mae'r cysylltiad yn wael, yn parhau.

Cyfleoedd

  • Rhwydweithiau 5G - Mae asesiad o'r ddarpariaeth 5G yng Nghanolbarth Cymru yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, sy'n ceisio gwella'r cysylltedd yn sylweddol.  Mae'r fenter hon yn ddibynnol ar sicrhau partneriaid sy'n gallu ymestyn cwmpas y sbectrwm, ac mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod mwyaf poblogaidd i dwristiaid, pan fo straen sylweddol ar y lled band sydd ar gael.
  • Technolegau sy'n Datblygu - Gall defnyddio LoRaWAN, y Rhyngrwyd Pethau (IoT) a Deallusrwydd Artiffisial (AI) drawsnewid sectorau allweddol fel amaethyddiaeth.
  • Datrysiadau band eang amgen - Ymgysylltu â darparwyr i ddefnyddio datrysiadau band eang amgen er mwyn goresgyn problemau oherwydd topograffeg a phoblogaeth brin.
  • Cydweithio ar draws Ffiniau - Gall partneriaethau rhwng cymunedau ger y ffin rhwng Powys a Cheredigion fanteisio i'r eithaf ar effaith prosiectau cysylltedd.  h.y. ANW, SBCD, Partneriaeth Afon Hafren.
  • Mentrau Ffyniant Bro - Gall Tyfu Canolbarth Cymru a mentrau cysylltiedig ddwyn cyllid strategol a ffocws i'r rhanbarth.
  • Cyfleoedd Profi -Prosiectau peilot a gynhelir yng Nghanolbarth Cymru i brofi dilysrwydd graddfa h.y.  treialon band eang lloeren DSIT.

Rhaglen Ddigidol TCC hyd yn hyn

  • £10.6m wedi'i 'glustnodi' er mwyn darparu'r ffrwd waith ddigidol.  Ei nod yw cyflymu a chyd-fynd â defnydd arall a wneir o seilwaith digidol a ariannir gan arian cyhoeddus a masnachol.  Darpariaeth band eang a symudol yn bennaf.

Amcanion y Rhaglen

  • Cynyddu cyfraniad buddsoddiad cyhoeddus/preifat a wneir eisoes mewn seilwaith digidol gymaint â £100m er mwyn darparu RoI o £180m erbyn 2030 (denu buddsoddiad, sicrhau elw economaidd).
  • Cyflawni targed o 80% ar ffurf cwmpas data symudol 4G yn yr awyr agored gan yr holl weithredwyr erbyn diwedd 2026 (Capasiti, Cwmpas a chyflymu).  Mae hyn yn cynnwys cwmpas 4G o 1800MHz o leiaf, ac isafswm o 5G band canol.
  • Cyflawni targed o 60% o ran cwmpas ffeibr llawn erbyn diwedd 2026 (Cwmpas a chyflymu).
  • Cyflawni targed o 98% o ran cwmpas cyflym iawn erbyn diwedd 2026 (Cwmpas a chyflymu).

Gwaith presennol a gwblhawyd

  • Ymgysylltu parhaus gyda sawl gweithredwr band eang a symudol, gan gynorthwyo defnydd a ariannir gan arian cyhoeddus a masnachol, gyda sawl miliwn o bunnoedd yn cael eu buddsoddi yn y Rhanbarth.
  • Platfform mapio data symudol cynhwysfawr, trwy gyfrwng cyllid SPF, i gynorthwyo wrth adnabod ardaloedd ymyrraeth a chynorthwyo gweithgarwch gwneud penderfyniadau am flaenoriaethu, gyda'r cyfleuster archwilio cwmpas annibynnol ac sydd ar gael i'r cyhoedd cyntaf o'i fath.
  • Cymeradwyo Cytundebau Mynediad Agored (yng Ngheredigion ac yn symud yn eu blaen ym Mhowys), fel yr argymhellwyd gan DSIT i ddarparu'r defnydd o Asedau'r Cyngor gan ddarparwyr rhwydwaith er mwyn gwella rhwydweithiau diwifr band eang a symudol.
  • Gweithgarwch ymgysylltu â busnes trwy gyfrwng Arolwg Cysylltedd Digidol Busnes TCC.  91 ymateb gyda dirnadaeth ranbarthol benodol o anghenion cysylltedd digidol ar draws busnesau Ceredigion a Phowys.
  • Nodi sawl prosiect, ac mae datblygiad achosion busnes priodol yn mynd rhagddynt.

Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol

  • Seilwaith Symudol- Gwella capasiti a chwmpas y rhwydwaith symudol, gan ddefnyddio celloedd bychain trwy ddefnyddio Cytundebau Mynediad agored (OAA) wedi'u hadlewyrchu ar draws y Rhanbarth yng Ngheredigion ac ym Mhowys.
  • Band eang- Ymestyn band eang a ffeibr all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid i eiddo ychwanegol fel rhan o fenter caffael Mat C DIST ac ar gyfer y rhai heb eu cynnwys mewn defnydd masnachol arall.
  • Sbarduno LoRaWAN/ IOT- Cynyddu rhwydwaith LoRaWAN presennol y Rhanbarth er mwyn sicrhau cwmpas ym mhob tref a safle cyflogaeth strategol, gan ymgysylltu â busnesau i fanteisio ar y rhwydwaith mewn ffordd effeithiol.
  • Cysylltedd FTTP Parciau Busnes- Sicrhau bod cymaint o eiddo sy'n weddill ag y bo modd yn y parciau busnes yn cael eu cysylltu â darpariaeth FTTP, er mwyn sicrhau gweithrediadau busnes effeithiol, i ddenu busnesau newydd a chynorthwyo twf busnesau.
  • Canolfannau Digidol- Sefydlu rhwydwaith o ganolfannau 'wedi'u galluogi yn ddigidol' ar draws Powys a Cheredigion, a fydd yn cynnig mwy o gysylltedd digidol i breswylwyr a busnesau, gan gynorthwyo mwy o fynediad i wasanaethau, sgiliau digidol a deori busnesau.

Mentrau Digidol Cyngor Sir Ceredigion

Cysylltedd Cymunedol Gwledig

Partneriaeth gyda Voneus

  • Darparwr amgen mynediad diwifr gigadid a ffeibr llawn.
  • Dwyn band eang ffeibr i 5,000 o eiddo gwledig.
  • Sicrhau cydfuddiannu Cytundeb Mynediad Agored (OAA) a lofnodwyd gyda Chyngor Sir Ceredigion ym mis Mai 2024.

Cymorth i Openreach

Darparu tri phrosiect masnachol a gynhelir gyda chymorth Talebau:

  • Tregaron:  posibilrwydd o 778 eiddo / posibilrwydd o £994,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Yn cael ei Adeiladu ar hyn o bryd.
  • Rhydlewis:  posibilrwydd o 762 eiddo / posibilrwydd o £994,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Cyflawnwyd y Targed Cyllido / Bydd y gwaith Adeiladu yn cychwyn.
  • Maesycrugiau:  posibilrwydd o 246 eiddo / posibilrwydd o £333,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Y prosiect yn aros am y lansiad cyhoeddus ar hyn o bryd.

Uwchraddio Mastiau Symudol

  • Cynyddu'r cwmpas symudol yng ngogledd Ceredigion.
  • Caiff ei gynorthwyo gan y Rhwydwaith Gwledig a Rennir (SRN).
  • Darparwyd tri mast ac maent yn weithredol;  mae wyth pellach yn cael eu hadeiladu, a disgwylir iddynt gael eu cwblhau erbyn diwedd 2025.

Cymorth Digidol Cymunedol

Parciau Busnes

  • Darparu cymorth trwy fenter "Atgyfnerthu Digidol Ceredigion a Phowys ".
  • Ceisiwyd cyllid gan bartneriaeth Rhanbarthol Tyfu Canolbarth Cymru.
  • Nod:  Cau bylchau ffeibr llawn o ran y cwmpas, sicrhau bod yr holl Barciau Busnes dynodedig yn gallu cael mynediad i Fand Eang ffeibr llawn all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid (rydym yn aros am y costau dangosol).

Rhwydwaith LoRaWAN

  • Mae gan Geredigion 52 o byrth wedi'u lleoli mewn mannau strategol.
  • Dim ond Powys yng Nghymru sydd mewn sefyllfa well o ran cwmpas.
  • Mae'n defnyddio dulliau arloesol, megis lorïau sbwriel, i brofi effeithiolrwydd y rhwydwaith.
  • Monitro pyrth yn barhaus er mwyn cynnal cysylltedd optimatidd.
  • Mae'n cynorthwyo datblygiad economaidd a thechnolegol.

Mynediad i wasanaeth Wi-Fi mewn Trefi

  • Gyda chymorth cyllid SPF, mae saith tref bellach yn cynnig mynediad Wi-Fi i breswylwyr a busnesau.
  • Ariannwyd hwn yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan gyfraniadau Cynghorau Cymuned.
  • 48 porth sy'n cael eu cynorthwyo gan lwybryddion Meraki.
  • Cysylltedd gwell yn Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, Ceinewydd, Aberaeron, Aberteifi, Llandysul, a Thregaron.
  • Lleoli pyrth mewn ffordd strategol ar gyfer cwmpas Wi-Fi cadarn.
  • Mae'n hyrwyddo cynhwysiant digidol ac yn cefnogi gweithgareddau economaidd.
  • Mae'n sicrhau mynediad dibynadwy i'r rhyngrwyd mewn mannau cyhoeddus a rhanbarthau busnes.
  • Mae'n amlygu ymrwymiad Ceredigion i ddefnyddio technoleg ar gyfer datblygiad economaidd a chymunedol.

Cyflwyno SENSEi

  • Dan arweiniad Smart Busnes [sic], mae'r trefi yr ymgysylltwyd â nhw bellach yn paratoi i wella effeithiolrwydd eu cwmpas trwy gyflwyno troshaen SENSEi.  Bydd SENSEi, technoleg a ysgogir gan AI, yn cynnig gallu dadansoddi data estynedig a gallu dysgu gan beiriannau er mwyn optimeiddio'r rhwydwaith Wi-Fi.  Trwy integreiddio gwaith dadansoddi rhagfynegol a monitro amser real, bydd SENSEi yn sicrhau mynediad cadarn, dibynadwy ac effeithlon i'r rhyngrwyd.  Bydd hyn yn hyrwyddo cynhwysiant digidol ymhellach, gan gynorthwyo busnesau lleol a meithrin twf economaidd yn y trefi clyfar hyn.

Mentrau Digidol Cyngor Sir Powys

Cysylltedd Cymunedol Gwledig

Cronfa Band Eang Lleol

Dyfarnu contract i Openreach trwy BT Wholesale i gysylltu hyd at 165 eiddo Anodd i'w cyrraedd ym Mhowys ynghyd â chysylltiadau damweiniol ychwanegol - bydd y gwaith yn cychwyn ar unwaith a chaiff ei gwblhau yn 2025.  Bydd y prosiect yn defnyddio methodoleg amgen er mwyn mynd i'r afael â chysylltu eiddo anodd i'w cyrraedd, a bydd ganddo y potensial i ddangos fforddiadwyedd ar gyfer modelau cyllido amgen.

Partneriaeth gyda Voneus

  • Darparwr amgen mynediad diwifr ffeibr llawn a gigadid.
  • Yn dwyn band eang ffeibr i 12,000 o eiddo gwledig.
  • Ysgogi Cytundeb Mynediad Agored (OAA) cydfuddiannol wedi'i lofnodi â Chyngor Sir Powys mewn trafodaethau gyda HOD a chyfreithiol ar gyfer y gallu i ddefnyddio Dodrefn Stryd Powys i gynnal dyfeisiau symudol a ffeibr er mwyn gwella cysylltedd.

Cymorth i Openreach

Darparu 7 (Saith) o brosiectau masnachol gyda chymorth Talebau:

  • Llanbrynmair:  posibilrwydd o 223 Eiddo / posibilrwydd o £423,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Yn cael ei Adeiladu ar hyn o bryd.
  • Ceri:  posibilrwydd o 514 Eiddo / posibilrwydd o £738,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Yn cael ei Adeiladu ar hyn o bryd.
  • Maesyfed:  posibilrwydd o 239 Eiddo / posibilrwydd o £342,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Yn cael ei Adeiladu ar hyn o bryd.
  • Llanwrtyd:  posibilrwydd o 216 Eiddo / posibilrwydd o £630 ar ffurf Cyllid Talebau - Yn cael ei Adeiladu ar hyn o bryd.
  • Llanrhaeadr:  posibilrwydd o 380 Eiddo / posibilrwydd o £580,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Yn cael ei Adeiladu ar hyn o bryd.
  • Aberriw:  posibilrwydd o 336 Eiddo / posibilrwydd o £621,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Yn cael ei Adeiladu ar hyn o bryd.
  • Tregynon:  posibilrwydd o 411 Eiddo / posibilrwydd o £612,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Ar fin cyflawni'r Targed Cyllid / Y gwaith Adeiladu ar fin Cychwyn.

Adrodd symudol TCC Streetwave

Mae TCC wedi gosod synwyryddion adrodd symudol ar 12 o Lorïau Sbwriel Powys sy'n teithio ar hyd a lled yr awdurdod, ac mae'r rhain yn adrodd yn ôl i ddangosfwrdd er mwyn cynnal archwiliad dwfn o broblemau cysylltedd symudol ym Mhowys - bydd y data hwn yn hynod o werthfawr wrth siarad â gweithredwyr Symudol gyda BT am y cam arfaethedig o stopio gwerthu i linellau copr a rhoi'r gorau i linellau ffôn PSTN traddodiadol.  Bydd yn golygu y bydd modd adrodd canfyddiadau annibynnol i OFCOM mewn ardaloedd a dargedir lle y gwelir pryderon gan breswylwyr.

Mynediad i wasanaeth Wi-Fi mewn Canol Trefi

Gyda chymorth Trawsnewid Trefi a chyllid SPF, mae gennym 7 Canol Tref ym Mhowys sy'n cynnal Wi-Fi Am Ddim ac mae data am nifer yr ymwelwyr sy'n cael ei bweru gan Patrwm ar gael fel ffynhonnell agored i fusnesau, y 3ydd sector a'r cyhoedd.  Rydym yn bwriadu cyflwyno hyn mewn 3 tref ychwanegol yn ystod tranche nesaf Cyllid SPF

Datblygu cymorth Digidol ar gyfer y Cymunedau Lleol

Gyda chymorth cyllid SPF, dyfarnodd Powys raglen ddigidol i Owens Consultancy sy'n darparu cynlluniau Bro Digidol i 3 Tref ym Mhowys, ynghyd â gweithio gyda busnesau a phreswylwyr ym maes dysgu a hyfforddi Technoleg sylfaenol.  Mae hefyd yn cynnig y cyfleoedd i breswylwyr gychwyn ar bwnc TG mwy manwl er mwyn sicrhau cymwysterau.  Cyflawnwyd hyn yn Ystradgynlais, Llanfair Caereinion a Chrucywel.

https://powysdigitaltowns.info/index.php

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu