Toggle menu

Arolygon diweddaraf

Supporting Enterprise survey Cymraeg

A oes angen cymorth arnoch i ehangu eiddo masnachol?

Mae Rhaglen Safleoedd ac Eiddo Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cyhoeddi arolwg er mwyn deall yn well gynlluniau busnesau ar draws y rhanbarth ar gyfer tyfu yn y dyfodol a'u hangen am eiddo masnachol.

Nod yr arolwg yw nodi'r angen am ymyrraeth ar ffurf cyllid yn y farchnad leol ar gyfer safleoedd ac eiddo masnachol. Bydd yr ymatebion i'r arolwg yn galluogi Tyfu Canolbarth Cymru, sy'n rheoli Bargen Twf Canolbarth Cymru, i ystyried amrywiaeth o opsiynau o ran cymorth, a allai helpu busnesau i gyflawni eu nodau o ran datblygu.

Mae Tyfu Canolbarth Cymru am gasglu cynifer o ymatebion ag sy'n bosibl fel y gellir dadansoddi'r data sy'n dod i law er mwyn deall y galw am gymorth. Yna, bydd Tyfu Canolbarth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i adolygu'r opsiynau a gweld beth yw eu hyd a'u lled.

Bydd yr arolwg ar agor tan 21 Gorffennaf 2024 a chaiff pob busnes ei annog i gymryd rhan. I gymryd rhan, ewch i: https://bit.ly/SupportingEnterpriseSurvey  (Defnyddiwch y gwymplen 'English' ar y dde i newid i'r ffurflen Gymraeg)

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu