Sut y gellir defnyddio arloesedd i reoli galwadau ar gridiau ynni gwledig, gan ddefnyddio'r rhyngweithio rhwng y sector amaeth a'r sector diwydiannau tir a chymunedau gwledig, gan ddarparu atebion i gyflymu datgarboneiddio?
Mae'r Cynllunio Ynni Ardal Leol (CYALl) ar gyfer Powys a Cheredigion yn tynnu sylw at yr angen am fuddsoddiad o £559 miliwn mewn seilwaith grid ar draws y rhanbarth, er mwyn hwyluso'r trosglwyddiad ynni i sero net. Gall rheoli'r galw ar gridiau gwledig mewn ffyrdd mwy arloesol yn helpu i leihau'r cost hwn, tra hefyd â'r potensial ar gyfer budd ehangach. Doedd peiriannau amaethyddol ac allyriadau o ddefnydd tir, sydd ill dau yn rhan sylweddol o allyriadau'r rhanbarth, ddim yn rhan o gwmpas y CYALl. Os caiff peiriannau amaethyddol eu trydaneiddio, bydd yn creu galw ychwanegol ar grid cyfyngedig.
Mae angen cynyddu capasiti is-orsafoedd ar draws pob parth yn y ddau awdurdod lleol, hyd at 51 MW ym Mhowys a 31 MW yng Ngheredigion, sy'n debygol o gymryd amser. Mae gan Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) y potensial i ddarparu ateb mwy cost-effeithiol a chynaliadwy i'r broblem hon. Yn ogystal, gall lleihau a gwneud y gorau o'r galw ar seilwaith y grid gwledig gynyddu'r cyflymder y gall prosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd gael eu datblygu a gwella sut mae'r gymuned leol yn eu gweld.
Mae gan Ganolbarth Gwledig Cymru gymuned amaethyddol gref ac yn sector economaidd pwysig gyda nifer fawr o weithwyr ar draws y rhanbarth. Credwn fod yr her hon yn rhoi cyfle i gyflenwyr arloesi i ddatblygu atebion newydd a deallus a all gefnogi datgarboneiddio'r diwydiant amaethyddol yn ogystal â'r rhanbarth ehangach. Gall yr economi wledig ehangach hefyd chwarae rhan yn y prosiect, er enghraifft datgarboneiddio cadwyni cyflenwi lleol; sicrhau mwy o fudd i'r ardal.
Mae Tyfu Canolbarth Cymru wedi llwyddo i wneud cais i gronfa her Ymchwil ac Arloesi Systemau Cyfan mewn Datgarboneiddio (WSRID) Llywodraeth Cymru.
Mae gennym ddiddordeb mewn atebion arloesol sy'n ystyried dull systemau cyfan i ddeall y rôl y gallai amaethyddiaeth, neu ddiwydiant ar y tir, ei chwarae fel modd o alluogi datgarboneiddio ehangach ar draws cymunedau gwledig. Y nod yw nodi arloesedd a fydd yn helpu i leihau maint yr uwchraddio seilwaith grid sydd ei angen ar draws y rhanbarth, tra hefyd yn darparu buddion i'r cymunedau gwledig cyfagos, y sector amaethyddol yn ei gyfanrwydd a datblygu prosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Gall arloesi fod ar ffurf ond heb fod yn gyfyngedig i:
· Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) amaethyddol
· defnyddio sgil-gynhyrchion amaethyddol i gynhyrchu tanwydd amgen
· Cynlluniau ynni cymunedol
· storio ynni (e.e. ymateb galw)
· cynhyrchu ynni adnewyddadwy amaethyddol
· neu unrhyw atebion arloesol eraill.
Themâu Her Penodol:
· Amaethyddiaeth a diwydiannau tir
o Peiriannau, adeiladau, tir
· Cymuned
o Tai, gwresogi, trafnidiaeth
· Grid
o Hyblygrwydd, Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES)
· Cynhyrchu
o Ynni cymunedol, adnewyddadwy
Amcanion dichonoldeb:
· Darparu tystiolaeth o allu i reoli/lleihau'r galw ar seilwaith grid
· Dangos y gallu i dyfu yn unol â'r anghenion, masnacheiddio ac ail-gyfeirio
· Nodwch brosiectau peilot a'u hyfywedd masnachol
· Amlinellwch fuddion ychwanegol i'r gymuned a chyfeirio at y CYALl
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i her Tyfu Canolbarth Cymru: Arloesi i optimeiddio gridiau gwledig drwy gymunedau amaethyddol dewch i'n weminar cyflenwr ar 29 Tachwedd am 2pm, e-bostiwch huw.williams2@ceredigion.gov.uk. Mae cyllideb o £100k i gaffael hyd at 4 astudiaeth dichonoldeb sy'n ateb yr her mewn ffordd arloesol. Mae'r ffenestr gaffael ar gyfer WSRID bellach ar agor. Cofrestrwch gydag eDendroCymru yna defnyddiwch y ddolen ganlynol: https://etenderwales.bravosolution.co.uk/go/08701525019363BABE2C .Bydd y ffenestr gaffael ar agor o hanner nos ar 25/11/24 ac yn cau am hanner dydd ar yr 11/12/24.