Toggle menu

2. Dogfennau Canllaw

2.6 Canllawiau Cydnabyddiaeth/Cyhoeddusrwydd

Protocol cyhoeddusrwydd ar gyfer y sawl sy'n derbyn grant

Diben

Rydym yn gofyn i bawb sy'n derbyn grant gydnabod yn gyhoeddus y cymorth ariannol a gafwyd. Mae hynny'n helpu i godi ymwybyddiaeth o'r modd y mae buddsoddi cyhoeddus trwy Fargen Twf Canolbarth Cymru yn rhoi cymorth i fusnesau ac yn adeiladu ein heconomi ranbarthol.

Os ydych yn cynllunio unrhyw gyhoeddusrwydd (megis datganiadau i'r wasg, negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol neu gyhoeddiadau), anfonwch neges ebost sydyn atom ymlaen llaw yn growingmidwales@ceredigion.gov.uk er mwyn i ni allu helpu i sicrhau bod popeth yn cyd-fynd â dull cyfathrebu'r Fargen Twf.

Dyma rai pwyntiau i'w hystyried:

Beth y mae angen i chi ei wneud

Deunyddiau cyffredinol (e.e. gwefan, taflenni, arwyddion)

Cynnwys logos Tyfu Canolbarth Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (a ddarperir adeg dyfarnu'r grant), a'r datganiad hwn (yn Gymraeg a Saesneg):

"Caiff y prosiect hwn [ei ariannu/ei ariannu'n rhannol] drwy Gronfa Fuddsoddi Eiddo Masnachol Canolbarth Cymru, a weithredir gan Fargen Twf Canolbarth Cymru yn rhan o Tyfu Canolbarth Cymru."

"This project is [funded/part-funded] through the Mid Wales Commercial Property Investment Fund, delivered by the Mid Wales Growth Deal as part of Growing Mid Wales."

Ar-lein/Cyfryngau Cymdeithasol

Os ydych yn cyhoeddi negeseuon am y prosiect:
• Tagiwch @GrowingMidWales ar LinkedIn neu X
• Defnyddiwch yr hashnodau: #BargenTwfCanolbarthCymru #MidWalesGrowthDeal

Placiau ac arwyddion

Ar gyfer prosiectau seilwaith, dylid gosod plac parhaol cyn pen 3 mis ar ôl cwblhau'r prosiect (nad yw'n llai na 250mm x 200mm o faint), sy'n cynnwys y logos a'r datganiad ynghylch ariannu.

Datganiad i'r wasg

Os byddwch yn creu datganiad i'r wasg, cysylltwch â ni'n gyntaf, Mae'n bosibl y bydd angen i ni gysylltu â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Ebost: growingmidwales@ceredigion.gov.uk

Digwyddiadau (sy'n cynnwys y cyhoedd)

Os byddwch yn cynnal digwyddiad sy'n gysylltiedig â'r prosiect, defnyddiwch y logos a'r datganiad ar wahoddiadau a baneri, a rhowch wybod i ni amdano.

Fideo neu gynnwys gweledol

Ychwanegwch y logos am 3 eiliad ar y diwedd a cheisiwch gynnwys isdeitlau dwyieithog os yw hynny'n bosibl.

Canllawiau brandio

  • Defnyddiwch logos swyddogol Tyfu Canolbarth Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (a ddarperir adeg dyfarnu'r grant).
  • Cadwch y cyfan yn glir, yn gytbwys a heb ei anffurfio gyda logos Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
  • Peidiwch â thocio nac ymestyn y logos.
  • Gosodwch y logos yn glir ar unrhyw ddeunydd sydd wedi'i fwriadu ar gyfer y cyhoedd.

Iaith a hygyrchedd

Rhaid i bob cyhoeddusrwydd fod yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg). Gellir cynnwys costau cyfieithu yn eich cyllideb ar gyfer y grant.

Angen cymorth?

Rydym yma i helpu i wneud y cyfan yn rhwydd. Cysylltwch â ni yn growingmidwales@ceredigion.gov.uk gydag unrhyw ymholiadau neu os ydych yn ansicr ynghylch eich cynlluniau.


Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu